Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwladfa: Gwilym Bowen Rhys

Gwladfa: Gwilym Bowen Rhys

Dych chi wedi gweld Gwladfa: Gwilym Bowen Rhys ar S4C?  Mae’r rhaglen bob nos Lun am 8 o’r gloch. 

Mae Gwilym yn teithio i Batagonia i ymweld â’r gymuned Gymraeg yno.  Mae’n dysgu am hanes y gymuned, ac yn cyfarfod pobl yr ardal sy’n siarad Cymraeg.

Mae’r rhaglen yn addas i ddysgwyr, ac mae is-deitlau ar gael.

Yma, ’dyn ni’n siarad â Gwilym am y rhaglen…

Beth oedd y peth gorau am y daith?
Y cyd-ganu a’r bwyd.

Sut oedd y croeso yno?
Mawr a gwresog!

Dych chi’n siarad Sbaeneg?
Mae gen i lawer o Sbaeneg rŵan.  Yn y cyfnod clo, ro’n i’n gwylio sioeau coginio Sbaeneg ar y cyfrifiadur.  Hefyd, dw i wedi bod i rai gwledydd sy’n siarad Sbaeneg.  Ond dw i’n siarad Sbaeneg efo acen Sbaen, nid de America.  Mae’r ddwy yn wahanol.

Dych chi wedi bod i Batagonia o’r blaen, oedd unrhyw beth wedi newid yno?
Mae tref Porth Madryn wedi tyfu llawer.  Ond roedd y profiad yn wahanol, achos yn 2017, doedd gen i ddim gair o Sbaeneg.

Beth yw sefyllfa’r Gymraeg yn y Wladfa?
Mae’r iaith yn saff yno, achos mae mwy o blant yn cael addysg drwy’r iaith nag o’r blaen,  ond mae llai yn siarad Cymraeg yn y cartref.

Dych chi wedi ffeindio caneuon newydd?
Do, llawer o ganeuon gafodd eu cyfansoddi yn y Wladfa.  Hefyd, ambell fersiwn iaith Sbaeneg o hen emynau Cymreig.

Beth fydd yn digwydd yng ngweddill y gyfres?
Llawer o ganu a chwerthin, ac ambell ddeigryn efallai… a golygfeydd gwych.

Ar ôl cyhoeddi albwm newydd, beth arall sy ar y gweill yn 2025?
Gigio, gigio, gigio!  A beirniadu’r cystadlaethau canu gwerin yn yr Eisteddfod yn Wrecsam.

Dych chi’n gallu gwylio’r bennod gyntaf ar S4C Clic drwy ddilyn y ddolen nesaf: Gwladfa: Gwilym Bowen Rhys - Pennod 1 - BBC iPlayer