Holi seren Rownd a Rownd
Sgwrs gyda Gwyn Vaughan Jones, un o sêr y gyfres ddrama Rownd a Rownd
Mae’r actor Gwyn Vaughan Jones yn chwarae rhan ‘Arthur’ yn y gyfres ddrama i bobl ifanc, Rownd a Rownd, sy’n cael ei darlledu ar S4C bob nos Fawrth a nos Iau am 6.30pm.
O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Dw i'n dod o Flaenau Ffestiniog, "Tref y Llechi", ac es i i'r ysgol gynradd ac uwchradd yno. Cefais fy magu ar aelwyd gwbl Gymraeg mewn tref ddiwydiannol tebyg i gymunedau cymoedd y De.
Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Dw i'n siarad Cymraeg bron trwy'r amser - yn y gwaith, yn y pentref dw i'n byw ynddo ac adre rhan fwyaf o'r amser. Mae fy mhartner yn dod o Norwy ac mae wedi dysgu Cymraeg.
Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?
Fy hoff beth yw cerddoriaeth glasurol rhan fwyaf a bod mewn caffis! Dw i'n byw mewn caffis! Fy nghas beth yw llygod mawr a Brexit!
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am weithio ar Rownd a Rownd?
Dw i'n mwynhau'r gwmnïaeth yn Rownd a Rownd - y bobl anhygoel sy'n gweithio yma. Mae o fel teulu mawr a phawb yn hapus gyda'i gilydd. A hefyd dw i'n mwynhau chwarae rhan Arthur - mae o yn hwyl ei actio er nad oes neb yn ei hoffi!
Beth yw’r olygfa mwyaf cofiadwy i ti actio ynddi ar Rownd a Rownd?
Mae yna gymaint ohonyn nhw! Fedrai ddim dweud fod un yn sefyll allan. Dw i'n lwcus o gael lle mor hapus i weithio ynddo!
Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden?
Dw i'n hoffi cerdded mynyddoedd, rhedeg weithiau, gwrando ar gerddoriaeth, teithio a darllen nofelau Scandi-noir. Hefyd fyddai yn mynd i'r theatr yn aml i weld sioeau a gweld perfformiadau dawns.
Beth yw dy hoff lyfr Cymraeg?
Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard. Cefais y fraint o actio yn y cynhyrchiad llwyfan ohoni pan oeddwn i'n ddyn ifanc.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
'Igam-ogam' a 'bendigedig'.
Oes gen ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Peidiwch a rhoi'r ffidil yn y tô!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Annwyl, sensitif a gwirion!