Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Hanes Paige, yn ei geiriau ei hun

Hanes Paige, yn ei geiriau ei hun

Cafodd Paige Morgan ei geni a’i magu yn Seattle, Washington, ond nawr mae hi’n byw yn Wilmington, Delaware yn yr Unol Daleithiau.

Dyw Paige ddim yn cofio sut y cychwynnodd ei diddordeb yn y Gymraeg, ond mae’n cofio ceisio dysgu’r iaith pan oedd yn blentyn – gyda llyfrau ail-law.

Ail-gysylltodd â’r iaith yn 2016, ac eleni, cwblhaodd gwrs lefel Uwch gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dyma ychydig o hanes Paige, yn ei geiriau ei hun – diolch iddi am rannu ei stori â ni!

Dw i’n cofio gwrando ar BBC Radio 3 yn 2016, a chlywais gân hynod o hyfryd; cân lesmeiriol gan Bendith.

Ro’n i’n dwlu ar y gân, a dwedais i, “dylet ti ddechrau dysgu Cymraeg eto.”

Roedd llawer mwy o adnoddau i fy helpu i ddysgu erbyn hynny – apiau megis SaySomethinginWelsh a Duolingo - ond yn anad dim, roedd Radio Cymru yn arbennig o ddefnyddiol.

Wrth wrando, darganfyddais fy mod i wrth fy modd â cherddoriaeth Gymraeg... Brigyn, Ryan a Ronnie, Plethyn, Meinir Gwilym, Rogue Jones, Geraint Lovgreen… r’on i methu cael digon. Doedd dim ots na allwn ddeall pob gair o’r caneuon. A dyna sut wnes i ail-gychwyn fy nhaith iaith.

Dysgais yn araf iawn ar fy mhen fy hun, weithiau doedd gen i ddim ond pum munud i wneud Duolingo… ond roedd Radio Cymru wastad yna, fel rhyw fath o raglen drochi. Roedd gwrando ar y radio’n bwysig gan ei fod yn ffordd dda i glywed tafodieithoedd a dod i ddeall bod nifer o ffyrdd o fynegi rhywbeth.

Ymaelodais â Chôr Cymry Gogledd America yn 2019 ac roedd dosbarthiadau Dysgu Cymraeg ar lefel Mynediad gan y côr ond ro’n nhw’n rhy hawdd i fi erbyn hynny. Ro’n i’n dysgu fel pioden, ac yn ffeindio adnoddau i ddysgu mewn pob math o lefydd.

Daeth y côr i Gymru yn 2023 - fy nhro cyntaf yng Nghymru ers dechrau dysgu.

Ro’n i’n nerfus iawn am siarad, ond dechreuais sgwrsio â threfnydd y daith ar yr ail ddiwrnod a daeth fy Nghymraeg allan fel swigod o botel befriog.

Ar ôl dychwelyd i’r UDA, ro’n i’n gweld eisiau siarad Cymraeg a dechreuais wneud dosbarth Uwch ar-lein, er gwaetha’r ffaith ei fod e’n digwydd am 4:30yb, amser UDA.

Ond roedd dosbarth Tracey Eccott werth yr ymdrech, ro’n i mor hapus i gael cyfle i siarad a dysgu mwy o Gymraeg bob wythnos.

Roedd Tracey yn diwtor hyfryd a galluog iawn, ac mae fy Nghymraeg wedi gwella llawer gyda’i help hi.

Penderfynais i ddod yn ôl i Gymru, i wneud dipyn o lwybr yr arfordir ac ymarfer fy Nghymraeg.

Gwnes i gyrraedd ym mis Ebrill a chychwyn cerdded y llwybr - byrbrydau yn fy mag, Bwncath yn fy nghlustffonau, tywydd llwyd ond ddim yn ofnadwy.  Ro’n i’n gwneud amser da, saith milltir mewn dwy awr… ac wedyn des i i ran llithrig o’r llwybr. Rhoddais fy nhroed ar y glaswellt a chwympais…

Clywais i’r esgyrn yn torri. Sain swnllyd a thawel ar yr un pryd. Do’n i erioed wedi torri esgyrn o’r blaen.

Mynnodd fy nhiwtor Tracey a’i gŵr, Tony, ddod i fy achub ac ro’n i’n ddiolchgar iawn.

Roedd yn rhaid i fi aros yn yr ysbyty am wythnos cyn cael llawdriniaeth (achos roedd y toriad yn gymhleth) ac wedyn, arhosais gyda fy ffrind Kim am dair wythnos cyn hedfan yn ôl i’r UDA. Mae fy nyled yn fawr i Kim, a’m tiwtoriaid Dysgu Cymraeg, Tracey a Kara - a fy ffrind Iain, a ddaeth o Lundain i ymweld â fi.

Gallwn i ddweud llawer o bethau am y cyfnod hwn, ond, heb os, roedd y Gymraeg fel angor i fi.

Ar ôl fy noson gyntaf yn yr ysbyty, daeth nyrs at fy ngwely, a gwelais i’r swigen ‘Cymraeg’, felly gofynnais “dych chi’n siarad Cymraeg?” Syfrdanwyd hi gan fy nghwestiwn - doedd neb yn disgwyl i Americanes ddechrau siarad Cymraeg yn yr ysbyty!

di

Ond ar ôl ychydig o siarad, gofynnodd beth sy’n well ‘da fi, Cymraeg neu Saesneg. A dewisais Gymraeg.

Doedd hwn ddim yn ddewis hawdd, a theimlai fel pe bai fy ngheg yn llawn tywod yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf; ond dw i’n cofio sylweddoli fy mod i wedi cael sgwrs go iawn yn Gymraeg ac roedd hynny’n anhygoel. Ac wedyn, daeth pethau’n haws ac yn haws.

Felly, ces i bedair wythnos yn byw fy mywyd yn Gymraeg.

Tyfodd fy Nghymraeg fel chwyn yn yr haf. Mae’r iaith wedi deffro yn fy mhen nawr; dw i’n dueddol o feddwl yn Gymraeg yn aml… swnio’n rhyfedd iawn, dw i’n siŵr. Ond fy iaith i yw hi, rhywsut?

Ac i orffen, dyma gyngor Paige i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg:

“Does dim byd yn bod gyda dysgu’n araf a chofiwch fod mwy nag un ffordd o gael Wil i’w wely; ffeindiwch ffordd o ddysgu sy’n apelio atoch, ac yn anad dim, peidiwch â stopio siarad. Ni fydd tawelwch yn gwella’ch Cymraeg, gan mai pridd di-ffrwyth yw tawelwch i dyfu ieithoedd.”