Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Newid byd i Hiroshi, a mwynhau iaith newydd

Newid byd i Hiroshi, a mwynhau iaith newydd

Dysgu Cymraeg wedi 'newid bywyd' yr athro dan hyfforddiant, Hiroshi Bowman

Mae dysgu Cymraeg wedi newid bywyd Hiroshi Bowman a anwyd yn Chicago, wrth iddo ddechrau pennod newydd yn Aberystwyth, gan hyfforddi i fod yn athro ysgol.

"Cyn i mi a fy ngwraig benderfynu symud i Gymru, doedd gen i ddim gwybodaeth flaenorol o'r iaith Gymraeg. Daeth fy niddordeb mewn astudio o'n cynlluniau i symud yma, ac yna drwy fy mhenderfyniad i hyfforddi'n athro.

"Unwaith i mi ddechrau darllen mwy am Gymru, fe ddes i ar draws cynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a rhywle ar hyd y ffordd wnes i roi dau a dau at ei gilydd a daeth hi'n amlwg er mwyn dysgu yma ac i wneud gwaith da, byddai angen o leiaf digon o Gymraeg i annog fy myfyrwyr ac i osod esiampl dda.”

Cyn symud i Gymru ym mis Awst 2022, cofrestrodd Hiroshi ar 'Gwrs Brys' ar-lein Dysgu Cymraeg ym mis Gorffennaf 2022 gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy'n cael ei redeg gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Yn ogystal â chwblhau lefel gyntaf y cwrs Mynediad i ddechreuwyr, mae Hiroshi wedi bod yn dysgu ar ei ben ei hun gan ddefnyddio Duolingo.  Cyn gynted ag y bydd wedi cwblhau hyfforddiant athrawon TAR, bydd yn treulio haf 2023 yn astudio unwaith eto.

Wrth siarad am ei brofiad ar y Cwrs Brys, mae Hiroshi yn amlygu pwysigrwydd dysgu gydag eraill.  "Roedd y cwrs dwys wedi helpu i roi mewn cyd-destun rhai o'r pethau roeddwn i wedi dysgu yn barod.  Roedd yn ysgogiad mawr bod yn rhan o gymuned o ddysgwyr, ac i glywed y tiwtor fel siaradwr brodorol.

"Roedd hi'n wych gallu gofyn cwestiynau a hefyd clywed cwestiynau gan ddysgwyr eraill ar y cwrs.  Gall hyd yn oed y cwrs cyfrifiadurol gorau ddim cynnig hyn i chi."

Magwyd Hiroshi yn siarad Saesneg, Siapanaeg, a Sbaeneg gartref. Aeth ati i ddysgu Saesneg yn yr ysgol ac am gyfnod fe wrthododd siarad Siapanaeg oherwydd ei fod wedi cael ei fwlio, ond wrth iddo dyfu roedd yn gweld eisiau'r iaith ac mae hyn wedi aros gydag ef ac mae'n wir reswm iddo annog pobl ifanc i ddysgu eu hiaith yng Nghymru.

Yn ôl yn UDA, roedd Hiroshi yn gweithio fel twrnai yn Chicago.  Pan wnaeth Hiroshi a'i wraig y penderfyniad i symud i'r Deyrnas Unedig - mae ei wraig yn dod o'r Alban yn wreiddiol - edrychon nhw ar sawl lle i ymgartrefu ond arfordir hardd Cymru oedd yn eu denu fwyaf.

Mae byd o wahaniaeth rhwng Aberystwyth a Chicago, sydd wedi'i diwydiannu'n drwm.  Mae Aber yn fwy tawel a hamddenol, ond ar yr un pryd, meddai Hiroshi, mae ganddi amrywiaeth ddiwylliannol fawr sy'n cael ei gyrru gan dwristiaeth a bywyd academaidd.  

"Mae'r Gymraeg yn rhan enfawr o'r gymuned a'r gymdeithas yng Nghymru ac wrth gwrs yn Aberystwyth.  Dyma'r holl brofiad diwylliannol.  Yn hunanol, rwyf am ymdrochi fy hun yn yr iaith. Byddai'n drueni gadael unrhyw beth heb ei gyffwrdd.

"Mae dysgu iaith, unrhyw iaith, a'i dysgu fel oedolyn yn her wych, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod mewn cymuned o ddysgwyr er mwyn cadw fynd.

"Rwy'n gobeithio, fel yr athro rhyfedd o America sy'n dangos diddordeb mewn dysgu a siarad Cymraeg, y bydd yn ddefnyddiol wrth i mi ddatblygu fy ngyrfa fel athro yng Nghymru."

Diwedd