Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Adam

Holi Adam

Beth yw dy gefndir di?

Dw i’n ddatblygwr meddalwedd ac yn dod o Derby.  Ond rwan dw i’n byw ar fferm yn Llandyrnog, Sir Ddinbych.

Sut wyt ti’n ymarfer siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth?

Mae Cymraeg yn y tŷ felly dw i’n lwcus iawn, ac yn gallu ymarfer bob dydd.  Mae fy ngwraig yn siarad Cymraeg, teulu’r wraig a’r bobl leol hefyd.  Mae pobl leol yn dod i’r fferm, felly dw i’n mwynhau ymarfer siarad Cymraeg efo nhw, a chlywed acenion gwahanol.

Pam wnest ti benderfynu dysgu Cymraeg, a symud i Gymru?

Mae fy ngwraig yn dod o Gymru, felly Cymraeg ydy ei hiaith gyntaf.  Ar ôl cael plant, ro’n i isio symud o Leeds, i fagu’r plant mewn lle hardd, a rhoi cyfle iddyn nhw siarad Cymraeg.

Pam mae magu dy blant yn ddwyieithog yn bwysig i ti?

Ro’n i isio i’r plant deimlo eu bod yn perthyn i Gymru, felly roedd rhoi’r cyfle iddyn nhw ddysgu Cymraeg yn ddewis hawdd.  Hefyd, mae dysgu iaith mor hawdd pan dach chi’n blentyn, felly ro’n i isio iddyn nhw ddechrau dysgu yn gynnar.

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Dw i’n hoffi dysgu am hanes geiriau.  Mae gan y geiriau ’dyn ni’n eu defnyddio gysylltiad cryf â’n hanes, ac yn gwneud i ni ddeall y byd o’n cwmpas yn well.  Gan mai’r Gymraeg ydy un o ieithoedd hynaf Ewrop, mae’r cysylltiad yna yn gryf iawn.

Ydy darllen llyfrau Cymraeg yn dy helpu i ddysgu’r iaith?

Dw i’n mwynhau darllen cyfres lyfrau Amdani a chylchgrawn Lingo yn fawr iawn.  Dw i’n hoffi sgwrsio â phobl yn Gymraeg bob dydd, ond dw i’n hoffi gweld yr iaith yn fwy ffurfiol ar bapur hefyd.  Mae hynny’n sicrhau fy mod yn deall yr iaith yn fwy dwfn.  Dw i’n gobeithio darllen llyfrau cyfres Amdani i gyd yn y pen draw.

Unrhyw gyngor i'r rhai sy eisiau dechrau dysgu Cymraeg?

Dysgwch yr wyddor.  Mae gan y Gymraeg wyddor sy’n hyfryd o gyson — unwaith dych chi’n dysgu sain llythyren, mae’r un peth bron bob tro.

Beth yw’r cam nesaf gyda dysgu Cymraeg?

Dw i wedi cofrestru i ddilyn cwrs Dysgu Cymraeg Mynediad 2 fis Medi.  Dw i isio sefyll arholiadau dros y blynyddoedd hefyd, er mwyn profi fy hun.

Hoff air Cymraeg?

Heddwas.