Holi Aled Sam
O ble wyt ti’n dod?
Dw i'n enedigol o Gwmafan, Port Talbot.
Beth yw dy gefndir di?
Fe ges i fy nghodi a’m magu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn wyth mlwydd oed fe symudes i a’r teulu i Fangor, felly dw i’n gallu siarad a deall y ddwy acen. Fe es i goleg i astudio Celf. Wedi gadael fe ges i waith gyda’r Urdd, cyn dechrau gyrfa fel darlledwr ar radio a theledu. Rwy’n briod â’r actores Rhian Morgan, ac mae gen i ddau fab.
Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Gan mai dim ond drwy gyfrwng y Gymraeg dw i’n gweithio, dw i’n ei defnyddio drwy’r dydd, a phob dydd. Fydda i ddim yn siarad Saesneg yn aml, ond mewn ambell siop efallai.
Dy hoff beth a dy gas beth?
Fy hoff beth yw teithio. Teithio i unrhywle. Fy nghas beth yw Blodfresych. Gair hyfryd, ond blas cas.
Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
Rwy’n hoff o wylio ffilmiau, darllen a chwarae gitâr.
Dy hoff lyfr Cymraeg?
Fy hoff lyfrau Cymraeg yw Pijin gan Alys Conran, a Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ross.
Dy hoff air Cymraeg?
Fy hoff air Cymraeg yw ‘Clapawolpedd’. Ansoddair am benderfyniad twp!!!!
Unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Fy nghyngor i yw, peidiwch â bod yn swil, mwynhewch eich camgymeriadau, does neb yn berffaith. Os nad y’ch chi’n gwybod beth yw’r union air, dyfeisiwch air eich hunan, neu gofynwch i rywun sy’n siarad yn rhugl. Y cyngor pwysicaf yw peidiwch â stopio dysgu.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Y tri gair fyswn i’n defnyddio i ddisgrifio fy hun yw, tew, hen a, chrintachlyd!