Holi Benedict, perchennog The Little Welsh Dresser

Mae menter newydd o’r enw ‘Cymraeg i Fusnesau Sir Gaerfyrddin’ yn helpu busnesau i ddysgu a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae dros 23 o fusnesau wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg i ddechreuwyr, gyda Benedict Vaughan-Morris, perchennog The Little Welsh Dresser, yn eu plith.
Beth yw eich cefndir?
Shwmae! Benedict dw i. Dw i’n rhedeg siop o’r enw ‘The Little Welsh Dresser’ yn fy nhref enedigol, Llandeilo. ’Dyn ni’n gwerthu anrhegion, nwyddau, cardiau, a blancedi Cymreig ac yn arbenigo ym Mhaent Sialc Annie Sloan ar gyfer dodrefn.
Pam roeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?
Ychydig iawn o Gymraeg oedd gyda fi ar ôl gadael ysgol gynradd ac uwchradd. Mae llawer o fy ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg felly ro’n i’n teimlo fy mod i eisiau gallu siarad yr iaith hefyd. Mae fy mhlant ifanc yn rhugl yn yr iaith, a gyda drysau’r siop bellach ar agor, ro’n i’n awyddus i roi cynnig ar ddysgu’r iaith eto.
Ers pryd dych chi’n dysgu Cymraeg?
Er fy mod i wedi ceisio dysgu’r iaith nifer o weithiau, sylweddolais bod yn rhaid i fi ddechrau o’r dechrau. Dechreuais i ddilyn cwrs Dysgu Cymraeg ar ddechrau 2024.
Sut brofiad oedd dysgu Cymraeg gyda busnesau eraill yr ardal?
Mae wedi bod yn wych dysgu gyda phobl sydd â meddylfryd tebyg, a dw i’n teimlo’n gyffrous i ddechrau’r cwrs nesaf yn y flwyddyn newydd a fydd yn gwella a magu fy hyder yn y Gymraeg.
Sut dych chi’n defnyddio eich Cymraeg yn y siop?
Dw i’n trio defnyddio’r iaith drwy roi cyfarwyddiadau a diolch i fy nghwsmeriaid. Mae fy nealltwriaeth o’r Gymraeg wedi gwella’n fawr.
Dych chi’n cael cyfle i ddefnyddio eich Cymraeg yn eich ardal leol?
Mae’r cyfle yno yn bendant. Dw i’n teimlo bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio a’i chlywed fwyfwy yn Llandeilo, sy’n hyfryd!
Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i’r busnes?
Mae dysgu Cymraeg wedi gwneud i fi ddeall anghenion fy nghwsmeriaid yn well. Unwaith bydda i’n magu mwy o hyder i siarad yr iaith, bydd yn deimlad braf gallu sgwrsio gyda fy nghwsmeriaid yn Gymraeg.
Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Dw i’n mwynhau’n fawr ac yn gwybod y bydd fy musnes a fy mywyd personol yn elwa o ddysgu’r iaith.
Beth yw eich cyngor i bobl eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?
Ewch amdani! Mae dysgu ar Zoom yn gweithio’n dda i fi.
Beth nesaf gyda dysgu Cymraeg?
Dw i newydd orffen cwrs Mynediad 1 and 2, a bydda i’n dechrau cwrs Sylfaen cyn bo hir!