Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Camilla

Holi Camilla

Mae Camilla Cruciani yn dod o Rufain yn yr Eidal, ac mae’n astudio milfeddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl ers tair blynedd.

Mae ei mam yn dod o Ardal y Llynnoedd yn Lloegr, a’i thad yn Eidalwr, felly mae hi’n barod yn siarad Eidaleg a Saesneg.

Mae Camilla hefyd yn dysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Morgannwg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cawson ni air â Camilla am ei thaith yn dysgu Cymraeg.

Rwyt ti’n wreiddiol o’r Eidal, a nawr yn byw yn Lerpwl – beth ydy dy gyswllt â’r Gymraeg?

Gwnes i gyfarfod fy nghariad, Owain, yn Lerpwl ac mae Owain yn dod o Sir Gaerfyrddin. 

Do’n i erioed wedi clywed y Gymraeg yn cael ei siarad cyn cyfarfod Owain, nac yn adnabod neb oedd yn ei siarad!  Do’n i erioed wedi clywed yr enw Owain cyn hynny chwaith!

Wyt ti’n cofio’r tro cyntaf i ti glywed Owain yn siarad Cymraeg?

Ydw – dw i’n cofio ei glywed yn siarad Cymraeg ar y ffôn a wedyn, gwnes i benderfynu mod i eisiau dysgu’r iaith.   

Gwnes i gychwyn gyda Duolingo ond yna, ar ôl ymweld â theulu Owain yn Sir Gaerfyrddin haf diwethaf, gwnes i benderfynu fynd ati i ddysgu’r iaith yn iawn.  Gwnes i ymuno â gwersi ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg.

Wyt ti’n mwynhau dysgu ar-lein?

Ydw, dw i wir yn mwynhau ac mae fy nhiwtor, Laura, yn anhygoel.  Mae hi’n siarad Eidaleg yn dda iawn ac mae’n gallu dangos pethau tebyg yn y ddwy iaith i mi – y gramadeg neu rai geiriau.  Mae’n fy helpu i wneud cyswllt tra’n dysgu.

Ble wyt ti’n defnyddio’r iaith tu allan i’r dosbarth?

Dw i’n ymarfer siarad Cymraeg gydag Owain a dw i hefyd wedi dechrau darllen llyfrau yn Gymraeg.  Dw i wedi cychwyn gyda llyfr o gyfres Amdani, ‘Byd Bach’ gan Esyllt Maelor.  Mae’n gyfres o straeon byrion.

Beth yw dy obaith i’r dyfodol?

Dw i eisiau gallu siarad Cymraeg yn rhugl a byddwn yn hoffi cyrraedd safon lle does dim rhaid i bobl droi sgwrs i Saesneg er fy mwyn i.