Holi Charlotte Nolan
Yma, ’dyn ni’n holi Charlotte Nolan, enillydd Gwobr Goffa Basil Davies. Mae’r wobr yn cael ei rhoi i’r person sy’n cael y marc uchaf yn arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC bob blwyddyn.
O ble dych chi’n dod?
Dw i’n dod o’r Wyddgrug, ond dw i’n byw yn Surrey rŵan.
Pam dechrau dysgu Cymraeg?
Pan ro’n i’n byw yn yr Wyddgrug, ro’n i isio siarad Cymraeg, ac yn teimlo bod rhywbeth ar goll. Felly yn 2022, mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg.
Ar ba lefel dych chi?
Dw i’n dysgu ar lefel Uwch 2. Dw i’n dysgu ar-lein efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin a Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr.
Dych chi’n siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth?
Dw i’n siarad ar-lein efo tiwtor bob wythnos. Dw i hefyd yn siarad wyneb yn wyneb efo dysgwr arall sy’n byw yn lleol. Dw i’n mynd ar wyliau i Gymru yn aml.
Dych chi wedi ennill Gwobr Goffa Basil Davies – sut dych chi’n teimlo?
Hapus iawn! Dw i isio diolch i’r tiwtoriaid gwych am eu gwaith caled. Mae’r wobr yn dangos pa mor bell dw i wedi dod, ers dechrau dysgu Cymraeg.
Beth yw eich cyngor i ddysgwyr eraill?
Mae dysgu geirfa yn bwysig, dw i’n hoffi defnyddio Quizlet. Mae BorrowBox yn dda er mwyn benthyg llyfrau llafar ac ymarfer ynganu. Yn olaf, mae dysgu iaith fel chwarae offeryn – rhaid ymarfer! Felly os dych chi’n gallu, ewch i sesiynau sgwrsio er mwyn siarad Cymraeg.
Beth sy nesaf gyda dysgu Cymraeg?
Dw i isio dilyn cwrs lefel Uwch 3 nesaf. Yn y dyfodol, dw i isio symud i Gymru er mwyn siarad yr iaith bob dydd.