Holi Colin Jackson
Fel rhan o gyfres newydd ar S4C Iaith ar Daith, wnaeth ddechrau nos Sul diwethaf (19 Ebrill) am 8 o'r gloch, mae Colin Jackson yn un o bump seleb sy’n mynd ar daith i rannau gwahanol o Gymru gyda mentor adnabyddus sy’n gallu siarad Cymraeg i geisio dysgu Cymraeg.
I weld Colin Jackson yn dysgu Cymraeg gyda'i fentor Eleri Siôn, gwyliwch S4C nos Sul nesaf sef 26 Ebrill am 8 o'r gloch.
O ble rwyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Ces i fy magu yn Llanedeyrn, Caerdydd ac es i i’r ysgol yno. Symudon ni fel teulu i fyw yn ardal Birchgrove y ddinas pan o’n i’n 17 oed. Dw i’n cofio dysgu Cymraeg yn yr ysgol – roedd gyda ni athro gwych o’r enw Mr Roberts, ac roedd e’n gwneud Cymraeg yn hwyl. Dw i hefyd yn cofio mynd i Wersyll yr Urdd, Llangrannog.
Pam o't ti eisiau dysgu Cymraeg?
Ro’n i’n teimlo’n genfigennus achos bod fy chwaer (yr actor, Suzanne Packer) yn dysgu ac yn gwneud yn dda iawn. Dw i’n gweld bod y Gymraeg wedi ei hannog hi i ymwneud yn fwy â Chymru. Dw i’n teimlo mod i’n medru dysgu, ond bydd angen i fi wneud hynny’n araf. Erbyn amser hyn y flwyddyn nesaf, mi fydda i’n arbenigwr!
Dw i wir eisiu dysgu Cymraeg – dw i’n credu bod yn rhaid i chi fod wir eisiau dysgu – mae’n rhaid ei fod yn deimlad sydd yn dod o du mewn i chi.
Dw i’n deall manion yn y Gymraeg, a gallaf ddweud rhai geiriau. Ar hyn o bryd dw i’n cyfieithu geiriau o’r Saesneg yn fy mhen er mwyn medru siarad yn Gymraeg. Ond dw i wedi cael cyngor i beidio anelu at berffeithrwydd – mae angen medru deall a chael dy ddeall. Ond dw i yn benderfynol y bydda i’n medru siarad Cymraeg.
Sut brofiad oedd dysgu Cymraeg?
Dw i wedi cael amser gwych yn dysgu, ond roedd yn anodd yn feddyliol am eich bod chi’n gorfod meddwl beth i’w ddweud o hyd. Cawson ni lot o hwyl – roedd Eleri a’r criw yn ffantastig. Roedd gyda fi gefnogaeth drwy’r holl brofiad.
Beth oedd y peth gorau am dy sialens ‘Iaith ar Daith’?
Dw i’n credu mai gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd bob dydd – mi welais y Gymraeg fel iaith fyw. Roedd pobl yn cerdded strydoedd Aberaeron, ar y traeth, yn y caffi ac yn siarad Cymraeg. Dw i’n credu mai dyna’r ffordd orau i brofi’r Gymraeg. Dw i’n dysgu gweld fy ngwlad drwy lygaid yr iaith Gymraeg.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Teimlo – to feel – dw i wastad yn hoffi siarad am fy nheimladau!
Araf bach – slow down a bit – roedd angen i fi ddefnyddio tipyn ar y frawddeg yna!
Oes unrhyw gyngor gyda ti i ddysgwyr neu bobl sy’n ystyried dysgu Cymraeg?
Dau beth – dych chi byth yn rhy hen, ac ewch amdani – mae dysgu Cymraeg yn daith arbennig!
Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?
Hoff beth: Chwerthin – dw i’n caru chwerthin!
Cas beth: Talu am goffi gwael.
Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
Unrhyw beth i gadw’n heini. Dw i wrth fy modd yn cadw’n iach – dim byd rhy eithafol – dw i’n mwynhau’r elfen gymdeithasol. Dw i’n hoffi coginio prydau iach, a byw bywyd cyflawn.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hapus. Gwerthfawrogol. Ystyriol.