Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Dean

Holi Dean

Mae Dean Flynn yn dilyn un o gyrsiau dysgu Cymraeg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac erbyn hyn mae’n defnyddio’r iaith yn y gweithle a gyda’r teulu.

Mae Dean yn gweithio fel rheolwr adeiladu yn ardal Llanelli.  Dean oedd yn rheoli prosiect adeiladu canolfan hamdden newydd Pentre Awel, Llanelli, sy newydd agor.

Yma, ’dyn ni’n holi Dean am ei daith i ddysgu Cymraeg…

Ble dych chi’n byw?
Dw i’n dod o Luton, Bedfordshire, ond gwnes i symud i Sir Gaerfyrddin yn 2019.

Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Ar ôl symud i Cross Hands, dechreuodd fy mhlant yn Ysgol Gorslas – maen nhw’n siarad Cymraeg yn rhugl nawr, a dw i mor falch ohonyn nhw.  Ro’n i eisiau dysgu’r iaith hefyd, er mwyn helpu’r plant gyda’u gwaith cartref.

Pa lefel dych chi?
Dw i newydd orffen lefel Mynediad.  Mi wnes i sefyll arholiad ym Mehefin, ac mi wnes i basio – ro’n i mor falch.

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Deall mwy, a theimlo’n rhan o Gymru a’r gymuned leol.

Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi’i wneud i chi?
Mae wedi fy helpu i deimlo’n rhan o’r gymuned.  Mae fy nain yn byw yng Nghei Connah, gogledd Cymru, ac mae hi mor falch ohono i a’r plant.  Mae hi’n hapus ein bod yn dysgu Cymraeg, ac mae hynny’n deimlad braf.

Sut dych chi’n ymarfer siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth?
Dw i’n siarad gyda’r plant ac yn gofyn pethau fel “Wyt ti eisiau?” neu “Beth sy’n bod?”.  Mae sawl cydweithiwr yn siarad Cymraeg, felly dw i’n trio siarad Cymraeg yn y gwaith.

Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill sy eisiau dechrau dysgu Cymraeg?
Daliwch ati!  Mae’r iaith yn cynnig cymaint – dw i wedi gwneud ffrindiau newydd, ac mae wedi agor drysau i mi.

Eich cam nesaf gyda’r Gymraeg?
Dw i eisiau siarad Cymraeg yn rhugl, felly’r cam nesaf fydd parhau i ddysgu, a symud ymlaen i lefel Sylfaen.