Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Elaine

Holi Elaine

Mae Elaine Morrisoe yn dysgu Cymraeg gyda chynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac erbyn hyn mae hi’n defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd yn ei gwaith o ddydd i ddydd.

Mae Elaine yn rhedeg busnes ffotograffiaeth, sy’n canolbwyntio ar flodau a gerddi, yn ogystal â Morris + Roe, cwmni sy’n gwerthu crefftau.

Yma, ’dyn ni’n holi Elaine am ei thaith i ddysgu Cymraeg…

O ble dych chi’n dod, a ble dych chi’n byw nawr?

Ges i fy ngeni yng Nghaerlŷr, ac ar ôl symud llawer gyda fy ngwaith, dw i’n byw ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin nawr.

Beth yw eich swydd?

Dw i’n tynnu lluniau gerddi a blodau, a dw i’n gwerthu crefftau dw i’n creu fy hun. 

Pam dechrau dysgu Cymraeg?

Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg 40 mlynedd yn ôl, pan ro’n i’n byw ym Mangor.  Mi wnes i ddilyn y cwrs achos dw i wastad wedi mwynhau ieithoedd.  Yn anffodus, mi wnes i symud i Lundain ar ôl gorffen y cwrs, felly doedd dim cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg.  Ond y tro yma, mae dilyn cwrs Dysgu Cymraeg wedi bod yn fuddiol iawn, achos dw i’n siarad Cymraeg yn y gwaith.

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Yn gyntaf, siarad gyda phobl yn eu hiaith gyntaf, ac yn ail, cael cyfle i fwynhau diwylliant arall drwy’r iaith Gymraeg.

Sut dych chi’n ymarfer siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth?

Dw i’n gwirfoddoli gyda grŵp dementia lleol ac yn trio siarad Cymraeg gyda aelodau’r grŵp.  Fel arfer, os ydyn nhw wedi cael eu magu yn siarad Cymraeg, maen nhw’n mwynhau defnyddio’r iaith heddiw.  Dw i hefyd yn mwynhau gwylio rhaglenni Cymraeg, darllen llyfrau o’r gyfres i ddysgwyr, Amdani, a siarad gyda’r criw yn fy nosbarth.

Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill sy eisiau dechrau dysgu Cymraeg?

Ewch amdani!  Mae’n hwyl, mae’n cadw’r meddwl yn effro, a dych chi’n dysgu gyda phobl sy â’r un nod â chi.  Dw i’n dysgu ar-lein, ac fel dosbarth, ’dyn ni wedi dod yn ffrindiau da, ac yn mwynhau dysgu gyda’n gilydd.

Beth nesaf gyda’r Gymraeg?

Parhau i ddysgu ac ymarfer.  Dw i eisiau gwylio rhaglenni S4C heb isdeitlau, a darllen llyfrau Holi Eheb eiriadur wrth fy ochr.

Llun: Ffotograffiaeth Elaine Morrisoe