Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Ellie King

Holi Ellie King

Mae Ellie yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd.  Mae’n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.  Roedd hi ar ‘Cyfrinachau’r Llyfrgell’, rhaglen newydd ar S4C sy’n edrych ar hanes rhai o bobl enwog Cymru.

Ble wyt ti’n byw?

Dw i’n byw yn Aberystwyth.  Dw i wedi byw yn Llundain, Glasgow a Michigan, UDA, hefyd dros y blynyddoedd.

Pam dysgu Cymraeg?

Dw i’n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol fel Curadur Cynorthwyol Mapiau.  Felly ro’n i eisiau dysgu Cymraeg er mwyn defnyddio’r iaith yn y gwaith.  Ro’n i hefyd eisiau cwrdd â phobl newydd a theimlo’n rhan o’r gymuned.

Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Dw i’n llai swil ers dechrau dysgu Cymraeg.  Dw i wedi cyfarfod llawer o bobl mewn dosbarthiadau gwahanol, felly dw i ddim yn poeni am ddechrau sgwrs gyda rhywun newydd yn Gymraeg.

Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i ti?

Dw i wedi setlo yn dda yn Aberystwyth, achos dw i wedi dysgu Cymraeg.  Cyn symud yma, doedd dim cysylltiad teuluol â Chymru.  Ond ers dysgu’r iaith, dw i wedi gwneud llawer o gysylltiadau newydd.

Wyt ti’n defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r gwaith?

Mae gen i lawer o ffrindiau sy’n siarad Cymraeg.  Dw i hefyd yn dawnsio gyda Dawnswyr Seithenyn, sy’n gwneud popeth yn Gymraeg.  Yn Aberystwyth, mae siopau a busnesau yn defnyddio’r iaith, felly mae llawer o gyfleoedd i siarad Cymraeg.

Wnest ti fwynhau ffilmio Cyfrinachau’r Llyfrgell?

Ro’n i ar y teledu ym mhennod Tudur Owen.  Roedd Tudur yn edrych ar hen fapiau ro’n i wedi eu ffeindio.  Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y mapiau.  Mi wnes i fwynhau’r profiad.

Beth yw dy gyngor i bobl eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?

Dewch yn aelod o’ch llyfrgell, er mwyn darllen llyfrau plant.  Ro’n i’n hoffi Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll gan Carys Haf Glyn sy’n cynnwys lluniau del gan Ruth Jên. 

Beth nesaf gyda dysgu Cymraeg?

Dw i eisiau mynd yn ôl i Nant Gwrtheyrn er mwyn gwneud cwrs Dysgu Cymraeg.  Dw i wedi bod yno unwaith, a wnâi fyth anghofio’r profiad, felly dw i methu aros!

Llun - Simon Evans.