Holi Elliw Gwawr
Mae Elliw Gwawr yn ohebydd seneddol gyda BBC Cymru. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn coginio ac wedi cyhoeddi sawl llyfr coginio. Bydd Elliw yn rhannu rysáit Nadoligaidd gyda ni ar 6 Rhagfyr fel rhan o’n Calendr Adfent Dysgu Cymraeg. Beth am ddysgu mwy amdani?
O ble dych chi’n dod a beth yw eich cefndir chi?
Dw i’n dod o Ddolgellau yn wreiddiol, ond erbyn hyn yn byw yn Essex, gyda fy ngŵr a dau o blant.
Pryd a ble dych chi’n defnyddio eich Cymraeg?
Er fy mod yn byw yn Lloegr dw i’n lwcus iawn i gael defnyddio fy Nghymraeg bob dydd, yn y cartref ac yn fy ngwaith. Dyw fy ngŵr ddim yn siarad Cymraeg (er mae’n deall rhywfaint), ond Cymraeg dw i’n ei siarad gyda’r plant ac mae’r hynaf, sy’n 5 oed, yn hollol rhugl erbyn hyn.
Mae gen i nifer o ffrindiau Cymraeg eu hiaith yn Essex hefyd felly dw i’n mwynhau cymdeithasu efo nhw, ac wrth gwrs mae ’na alwadau ffôn neu facetime cyson efo'r teulu ’nôl yng Nghymru. Fel gohebydd seneddol i BBC Cymru dw i hefyd yn defnyddio’r iaith yn fy ngwaith, yn darlledu ar Radio Cymru ac ar S4C.
Beth yw eich hoff beth a’ch cas beth?
Fy mhlant a fy nheulu yw fy hoff beth. Fy nghas beth - panas!
Pa fath o fwydydd dych chi’n hoffi eu coginio?
Dw i wrth fy modd yn gwneud byns melys.
Beth fyddai eich pryd delfrydol?
Un nad ydw i’n gorfod ei goginio, ac un Thai fyddai’n ddelfrydol.
Oes gyda chi unrhyw draddodiadau Nadolig arbennig yn ymwneud â bwyd?
Dw i’n gwneud cacen Nadolig fy hun bob blwyddyn, gan ddefnyddio hen duniau fy Nain. Dw i’n trio osgoi coginio cinio Nadolig os ydy hynny’n bosib!
Beth yw eich hoff lyfr Cymraeg?
Dwi’n mwynhau llyfrau’r awdur Llwyd Owen.
Beth yw eich hoff air Cymraeg?
Lletwad (ladle)
Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Ewch amdani, does dim ots os nad yw eich Cymraeg yn berffaith, achos does ’na neb yn poeni mewn gwirionedd. Dim ond wrth ymarfer y dewch chi’n fwy rhugl.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair
Cymraes, ffeminist, pesimist