Holi Elys

Mae Y Llais ar S4C yn fersiwn Gymraeg o The Voice ac mae llawer o ddysgwyr Cymraeg ar y rhaglen!
Mae Elys Davies o Ben-y-bont ar Ogwr ar dîm Bronwen, ac mae wedi dechrau dysgu Cymraeg ers bod ar y rhaglen.
Cawson ni air gyda Elys.
Helo Elys – sut wyt ti?
Dw i’n dda iawn diolch! Dw i newydd ddod allan o stiwdios y Ddraig ar ôl bod yn recordio ar gyfer Y Llais!
Sut brofiad ydy cystadlu ar Y Llais?
Mae’n brofiad hollol anhygoel ac mae pobl arbennig iawn yn gweithio ar y rhaglen. ’Dyn ni fel un teulu mawr ac mae pawb mor groesawgar a chefnogol.
Dw i mor falch mod i wedi gwneud cais i fod ar y rhaglen. Do’n i ddim yn siŵr os dylwn i, gan nad dw i’n siarad llawer o Gymraeg, ond pan wnaethon nhw ddweud nad oedd angen i mi fod yn rhugl, gwnes i feddwl y byddai’n gyfle perffaith i ddechrau dysgu Cymraeg eto.
Felly, wyt ti wedi bod yn dysgu Cymraeg o’r blaen?
Ydw, gwnes i TGAU ail-iaith Cymraeg yn yr ysgol, ond doedd dim digon o bobl eisiau gwneud Lefel A, felly gwnes i ddim parhau â’r Gymraeg ar ôl hynny.
Ro’n i eisiau dechrau dysgu Cymraeg eto, ac roedd hwn yn gyfle perffaith!
Wyt ti’n mwynhau canu yn Gymraeg ar Y Llais?
Ydw – yn fawr! Dw i’n gorfod deall ystyr y gân cyn dechrau dysgu’r geiriau, er mwyn gallu rhoi teimlad iddi – felly dw i’n dysgu llawer o eiriau newydd. Mae’n ffordd wahanol o ddysgu iaith ond dw i wir yn mwynhau!
Dw i hefyd yn dilyn app SaySomethingInWelsh, ac yn gwylio llawer o S4C ac yn manteisio ar bob cyfle i ymarfer fy Nghymraeg pan ’dyn ni’n ffilmio Y Llais.
Sut deimlad oedd cael y pedwar hyfforddwr yn troi atat ti?
Roedd yn wych! Baswn i wedi bod yn hapus iawn i fod yn nhîm unrhyw un o’r pedwar, ond Bronwen oedd fy newis cyntaf. Pan gwnes i weld ei chadair hi’n troi, gwnes i ymlacio a mwynhau gweddill y perfformiad.