Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Emyr

Holi Emyr

Mae Emyr Jones yn gweithio fel Tiwtor a Swyddog Datblygu gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Emyr sy’n dysgu Cymraeg i staff Clwb Rygbi’r Gweilch, ac fe sy’n arwain Côr Dysgwyr ABA.  Cyn dod yn diwtor, bu’n dysgu mewn ysgolion cynradd yng Nghastell Nedd Port Talbot, a bu’n bennaeth ar Ysgol Tyler Ynn, Llansawel ac Ysgol y Bannau, Aberhonddu.

Yma, ’dyn ni’n holi Emyr am ei waith:

Dych chi’n dysgu Cymraeg i staff y Gweilch, sut mae’n mynd?

Mae’r criw yn dod o’r Adran Farchnata a’r Adran Ymgysylltu â’r Gymuned.  Maen nhw’n wych ac yn defnyddio eu Cymraeg yn barod.  Maen nhw’n sgwrsio yn Gymraeg gyda’i gilydd, ac yn dechrau defnyddio’r iaith yn y gwaith.  Lance Bradley, y Prif Weithredwr oedd eisiau cynnal y dosbarth, ac mae’n gefnogol iawn.

Sut aeth y wers flasu i gefnogwyr?

Llwyddiannus iawn - ac mae nifer o gefnogwyr yn dysgu Cymraeg gyda ni nawr.  ’Dyn ni’n gobeithio trefnu mwy o wersi blasu yn y dyfodol.

Pam penderfynu bod yn diwtor?

Pan ro’n i’n dysgu ac yn bennaeth mewn ysgolion cynradd, ro’n i’n mwynhau gweithio gyda rhieni.  Ro’n i’n hoffi helpu’r rhieni i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, er mwyn iddynt ddefnyddio’r iaith gyda’r plant.  Ar ôl ymddeol yn gynnar, daeth cyfle i weithio yn y sector Dysgu Cymraeg.  Gwnes i benderfynu mynd amdani!

Beth ydy eich rôl?

Dw i’n gweithio gyda llawer o fyfyrwyr sy eisiau bod yn athrawon, a gweithwyr gofal iechyd.  Dw i hefyd yn trefnu cyrsiau Dysgu Cymraeg i staff Prifysgol Abertawe, a staff ysgolion siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Beth yw’r peth gorau am eich gwaith?

Dw i’n hoffi dechrau dosbarth newydd, a dod i adnabod y dysgwyr o gefndiroedd gwahanol.  Dw i’n mwynhau gweld y dysgwyr yn gwella dipyn bach ym mhob dosbarth.

Sut brofiad ydy arwain côr y dysgwyr?

Gwych!  Mae’r 20 aelod yn mwynhau cyfarfod, siarad a dysgu Cymraeg trwy ganu yn yr ymarferion sy’n cael eu cynnal am yn ail wythnos.  Mae rhai aelodau yn ymarfer yn Nhŷ’r Gwrhyd, Pontardawe ac eraill ym Mhrifysgol Abertawe, wedyn ’dyn ni’n uno ar gyfer cyngherddau.  Dw i’n hoffi cyflwyno caneuon newydd i’r criw, er mwyn iddynt ddysgu am farddoniaeth a chyfansoddwyr o Gymru.  Roedd arwain y côr yn yr Eisteddfod yn brofiad arbennig, a’r dysgwyr wedi mwynhau canu ar lwyfan y brifwyl am y tro cyntaf.

Unrhyw gyngor i diwtoriaid newydd?

Byddwch yn naturiol a mwynhewch y gwersi.  Os dych chi’n mwynhau, bydd y dysgwyr yn mwynhau a’r iaith yn llifo!