Holi Foo Seng, enillydd Siaradwr Cymraeg Newydd Gwobrau Ysbrydoli!
Yn wreiddiol o Malaysia, symudodd Foo Seng Thean a’i deulu i Abertawe yn 2015. Foo Seng oedd enillydd y categori ‘Siaradwr Cymraeg Newydd’ yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion y Sefydliad Dysgu a Gwaith eleni.
Mae Foo Seng yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cawson ni air â Foo Seng i ddysgu mwy am ei daith iaith...
Pam roeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
Er mwyn i fi allu gwerthfawrogi'r diwylliant yn well a theimlo fy mod i’n perthyn yma.
Ers pryd wyt ti wedi bod yn dysgu Cymraeg?
Dechreuais i ar gwrs Mynediad i ddechreuwyr ym mis Hydref 2022. Erbyn hyn, dw i’n dilyn cwrs ar lefel Canolradd.
Llongyfarchiadau ar ennill gwobr Siaradwr Cymraeg Newydd! Sut deimlad oedd hynny?
Dw i’n teimlo’n hapus iawn achos mae fy ngwaith caled yn cael ei gydnabod. Mae’n deimlad anhygoel.
Sut wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Dw i’n ymarfer gyda fy meibion, ac yn defnyddio fy Nghymraeg yn y gwaith yn y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru. Dw i’n aelod o gôr y dysgwyr a dw i’n mwynhau siarad Cymraeg gyda aelodau’r côr. Dw i’n gwylio fideos Dysgu Cymraeg ar YouTube er mwyn ymarfer.
Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i ti?
Dw i wedi cwrdd â phobl hyfryd ar hyd y daith, a dw i’n teimlo cysylltiad cryfach â'r gymuned. Mae dysgu Cymraeg wedi cynyddu fy hyder yn y gwaith hefyd.
Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Y bobl a’r ymdeimlad o berthyn.
Beth yw dy gyngor i bobl sy’n dysgu Cymraeg?
Byddwch yn amyneddgar.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
“Os gwelwch yn dda” – mae'n swnio'n ffansi!
Beth yw’r cam nesaf gyda dysgu Cymraeg?
Bydda i’n gwrando a darllen mwy. Yna, gwella fy sgiliau siarad Cymraeg trwy siarad â mwy o bobl. Dw i wedi bod yn ysgrifennu yn ddiweddar, mae’n fy helpu. Dw i hefyd yn bwriadu parhau i ganu’n Gymraeg.