Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Gwilym Morgan

Holi Gwilym Morgan

Gyda Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ar y gorwel, cawson ni air â Gwilym Morgan, cyn-enillydd Medal y Dysgwyr, am ei siwrnai gyda’r Gymraeg.  

Helo Gwilym! Dwed ychydig amdanat ti...  

Gwilym dw i. Dw i’n dod o Gaerdydd. Dw i’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg a Ffrangeg ar hyn o bryd.

Rwyt ti wedi dysgu Cymraeg – alli di ddweud ychydig wrthom am dy daith iaith?  

Gwnes i ddysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Ro’n i’n mwynhau ieithoedd yn yr ysgol uwchradd, yn enwedig y Gymraeg. Pan ro’n i yn y chweched, gwnes i sylweddoli bod y Gymraeg yn fwy na iaith y dosbarth.

Yn 2023, gwnes i ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin. Mae ennill y wobr wedi ysbrydoli popeth dw i wedi’i wneud ers hynny, gan gynnwys gwneud adnoddau i ddysgwyr Cymraeg a sefydlu busnes fy hun, GM Notebooks.

Sut deimlad oedd ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd?

Ges i e-bost yn dweud fy mod i wedi cyrraedd y rownd gynderfynol, oedd yn deimlad rhyfedd ond cyffrous. Do’n i wir ddim yn disgwyl ennill.

Aeth diwrnod y seremoni mor gyflym achos dych chi mor brysur yn siarad gyda’r wasg ac yn gwneud cyfweliadau. Do’n i ddim wedi gallu prosesu fy mod i wedi ennill nes ro’n i yn y car ar y ffordd adref am 6 o’r gloch y nos! Mae ennill y wobr wir wedi newid fy mywyd i.

Beth rwyt ti’n ei wneud nawr?

Dw i yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Dw i’n mwynhau’r cwrs, mae’n hwyl. Dw i’n mwynhau dysgu am ramadeg mewn manylder.

Gwnes i sefydlu fy musnes yn 2021. Ro’n ni’n gweithredu ar raddfa fach i ddechrau yn gwerthu llyfrau nodiadau yn unig, ond, ar ôl ennill Medal y Dysgwyr, ro’n i eisiau helpu pobl eraill i ddysgu Cymraeg. Erbyn hyn, mae llawer o adnoddau gwahanol gyda ni yn y siop. Mae’r busnes wir wedi tyfu ers ennill Medal y Dysgwyr.    

Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddechrau dy fusnes?

Ro’n i’n teimlo bod diffyg adnoddau lliwgar a gwahanol ar gael i ddysgwyr Cymraeg. Dw i’n teimlo bod llawer o adnoddau gwahanol ar gael wrth ddysgu Ffrangeg. Dyna be ro’n i eisiau ei wneud, creu rhywbeth baswn i wedi hoffi ei ddefnyddio pan oeddwn i’n dysgu Cymraeg.

Dw i wedi creu mat gramadeg maint A4 i’w roi ar fy nesg. Dw i’n defnyddio’r mat bob dydd er mwyn atgoffa fy hun o ffurfiau a rheolau gramadegol. Gobeithio bydd adnoddau fel hyn yn helpu dysgwyr eraill gyda’u taith iaith.

Beth yw'r cam nesaf i ti?

Dw i wedi cael lle ar gwrs Tiwtoriaid Yfory a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y cwrs. Dw i eisiau bod yn athro Cymraeg yn y dyfodol felly bydd y cwrs yn gyfle ac yn brofiad da.

Fel rhan o GM Notebooks, dw i’n stocio llyfrau Cymraeg er mwyn annog pobl i ddarllen a defnyddio’r Gymraeg. Dw i’n cydweithio gyda fy ffrind, Jess, i gynnal clwb darllen misol i ddysgwyr ar Zoom. Dw i hefyd yn cynnal sesiynau grŵp am ddim i ddysgwyr ar Zoom o’r enw ‘Cymraeg a phaned’. Y syniad yw gwahodd dysgwyr i ddod am sgwrs anffurfiol dros baned i ymarfer sgwrsio.

Dw i’n ysgrifennu llyfr gramadeg ar hyn o bryd sy’n cynnwys esboniad am reolau a gweithgareddau i ymarfer.

Beth yw dy gyngor i unrhyw un sy eisiau neu sy yn dysgu Cymraeg?

Fy mhrif gyngor yw mynd amdani a pheidio poeni gormod am wneud camgymeriadau. Dw i’n gwneud camgymeriadau bob dydd – yn Gymraeg, yn Saesneg, ac yn Ffrangeg. Mae’n rhaid defnyddio’r camgymeriadau i’n helpu ni i ddysgu’r iaith, a chael hyder i’w defnyddio.

Beth am ddilyn GM Notebooks ar Instagram, neu ymweld â’r wefan? 

Instagram: @gm_notebook
Gwefan:
GM Notebooks - Welsh Learners Resources