Holi Hannah – Cadeirydd Maes D Eisteddfod Wrecsam

Hannah Wright yw Cadeirydd Maes D, pentref dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, sy’n cael ei chynnal 2 – 9 Awst. Dyma fwy o hanes Hannah a Maes D...
Beth allwn ni ei ddisgwyl ym Maes D eleni?
Mae sawl stondin ym Maes D, gan gynnwys y Tipi. Yn y Tipi, bydd artistiaid a bandiau yn perfformio, sgyrsiau difyr a phodlediad yn cael ei recordio.
Bydd y Doctor Cymraeg (Stephen Rule) hefyd yn ymweld â Maes D bob dydd rhwng 12.00-1.00pm. Bydd cyfle i ddysgwyr drafod cwestiynau iaith, gyda’r Doctor yn cynnig presgripsiwn allai fod yn dasg, adnodd neu rywbeth arall!
Bydd modd mwynhau paned yn Stondin Llywodraeth Cymru, lle bydd criw o ddysgwyr yn rhedeg y caffi, ac mae pawb yn edrych ymlaen at gael ymarfer siarad Cymraeg.
A chofiwch alw am sgwrs gyda chriw Nant Gwrtheyrn a Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sydd hefyd yn rhan o bentref Maes D.
Beth wyt ti’n mwynhau yn yr Eisteddfod?
Dw i wastad yn mwynhau’r sesiynau comedi yn Encore a’r Babell Lên. Dw i hefyd yn edrych ymlaen at nos Sadwrn ola’r Eisteddfod pan fydd sioe fawr ar y Maes i gloi’r Eisteddfod.
Wyt ti wedi mwynhau bod yn Gadeirydd Maes D?
Ydw, dw i wedi mwynhau’n fawr! Ro’n i’n nerfus i ddechrau - dw i erioed wedi bod yn gadeirydd ar bwyllgor o’r blaen! Ond dw i wedi mwynhau gweithio efo dysgwyr yn fawr, yn cynllunio sesiynau ar gyfer Maes D. Bydd hi’n braf iawn gweld pawb yn yr Eisteddfod yn gwirfoddoli.
Beth ddylen ni ei wneud yn ardal Wrecsam?
Baswn i’n mynd i ganol Wrecsam yn gyntaf i weld y dref. Mae ’na nifer o gaffis bach neis yna sy’n gwneud paned dda!
Ac os oes amser, baswn i hefyd yn mynd i weld Pont Froncysyllte, Safle Treftadaeth y Byd. ‘Dych chi’n gallu croesi’r bont ar droed neu logi cwch – ond peidiwch edrych i lawr!
Beth yw dy gyngor i Gadeirydd Maes D Eisteddfod 2026?
Paid â gor-feddwl a mynd i boeni am bethau! Mae criw yr Eisteddfod yna i dy arwain a dy roi ar ben ffordd.
Tomos Hopkins fydd Cadeirydd Maes D yn 2026 ac wythnos nesa, byddwn ni’n cael gair â Tomos i weld sut mae’r paratoadau yn mynd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.