Holi Tiwtor 'Deg am 3pm'
Helen Prosser yw Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae Helen hefyd yn diwtor profiadol a dros yr wythnosau diwethaf mae wedi bod yn defnyddio'r llwyfan digidol 'Zoom' i ddysgu ei myfyrwyr. Mae Helen hefyd yn dysgu'r gwersi 'Deg am 3pm' dyddiol ar dudalen Facebook y Ganolfan. Dewch i adnabod Helen yn well!
Pwy wyt ti ac o ble wyt ti’n dod yn wreiddiol?
Helen Prosser dw i a dw i’n gweithio yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dw i’n dod o Donyrefail yn wreiddiol a dw i’n byw yn Nhonyrefail o hyd. Dysgais i Gymraeg mewn ysgol Saesneg ac wedyn mynd i Brifysgol Aberystwyth i wneud gradd yn Gymraeg.
Ers faint wyt ti’n dysgu Cymraeg i oedolion?
Dw i’n dysgu Cymraeg i oedolion ers dros dri deg o flynyddoedd. Dw i wrth fy modd yn y gwaith.
Sut ddest ti’n diwtor Cymraeg?
Ro’n i’n lwcus iawn i gael y cyfle i ddysgu ar gwrs haf (wyth wythnos) yn Llanbedr Pont Steffan. Ro’n i yn y brifysgol yn Aberystwyth ar y pryd.
Beth yw’r peth gorau am fod yn diwtor?
Mae dau beth: cael y cyfle i roi sgiliau i bobl yn yr iaith Gymraeg, ond hefyd dod i adnabod pobl wych a gweld y Gymraeg yn cyfoethogi eu bywydau nhw.
Sut brofiad yw dysgu o bell?
Wel, ry'n ni wedi ymdopi â’r amgylchiadau eithriadol hyn, ac er mod i’n dipyn o dechnophob ac yn nerfus iawn cyn dechrau, dw i’n dod yn fwy hyderus ac yn mwynhau’r sesiynau ar 'Zoom'. Ry'n ni'n trio creu'r un ‘buzz’ â'r ystafell ddosbarth.
Beth yw dy gyngor i bobl sy eisiau dysgu neu ymarfer yn y cartref?
- Os dych chi’n dechrau dysgu, dilynwch ein gwersi am ddim am 3pm ar Facebook bob dydd yn ystod yr wythnos. Mae Say Something in Welsh a Duolingo hefyd yn dda i ddechreuwyr.
- Os dych chi’n dysgu yn barod, cariwch ymlaen – ymunwch â’r dosbarthiadau o bell a defnyddiwch yr adnoddau ar-lein i’ch helpu chi.
- Ceisiwch ffeindio rhywun i ymarfer siarad â chi.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Ateb od ond pan o’n i yn yr ysgol, es i i Langrannog am benwythnos ar gyfer cwrs Cymraeg. Ar y prynhawn Sadwrn, aethon ni am dro i’r pentref ac roedd rhaid i ni enwi pethau roedden ni’n eu gweld. Dwedais i ‘clogwyn’ a ches i docyn iaith. Felly, mae’r gair ‘clogwyn’ yn arbennig i fi achos mae atgofion hapus gyda fi o fy nhaith yn dysgu Cymraeg.
Beth yw’r profiad mwyaf doniol i ti gael wrth ddysgu?
Mae gormod ohonyn nhw ond beth sy’n hyfryd mewn dosbarth Cymraeg yw bod pawb yn chwerthin gyda’i gilydd.
Sut wyt ti’n ymdopi gyda bod adref?
Dw i’n cadw’n brysur. Mae llawer o waith gyda ni yn helpu tiwtoriaid a dysgwyr i ddysgu yn ddigidol. Hefyd, mae fy mhlant yn 25 a 22 oed ond maen nhw wedi dod adref i fod gyda ni ac mae’n hyfryd cael eu cwmni nhw.