Holi Imogen ac Andrew
Yma, ’dyn ni’n holi Imogen Hopkins ac Andrew Skelton, sy’n dysgu Cymraeg ac yn creu cerddoriaeth Gymraeg gyda’i gilydd. Dych chi’n gallu dilyn eu taith gerddorol ar Spotify, Instagram a YouTube.
Beth yw eich cefndir?
Andrew – Dw i’n dod o Sheffield a gwnes i symud i Gaerdydd i fynd i’r brifysgol.
Imy – Gwnes i ddod i Gaerdydd i fynd i’r brifysgol hefyd, a dw i’n dod o dref o’r enw Darlington, sydd yn Sir Durham.
Pam dechrau dysgu Cymraeg?
Andrew – Ro’n i wedi bod yn byw yng Nghymru ers dros 15 mlynedd heb roi cynnig ar ddysgu Cymraeg. Ond pan welais i faint oedd Imy yn mwynhau dysgu, ro’n i eisiau trio dysgu’r iaith hefyd.
Imy – Roedd y ffaith bod gwersi Cymraeg yn cael eu cynnig am ddim i bobl 18-25 oed yn apelio. Ro’n i’n 25 ar y pryd, felly gwnes i benderfynu mynd amdani!
Pa lefel dych chi?
Imy – Gwnes i gwrs Mynediad a dw i’n dilyn cwrs Sylfaen nawr.
Andrew – Ar hyn o bryd dw i’n defnyddio Duolingo i ddysgu Cymraeg.
Dych chi’n defnyddio Cymraeg yn y gwaith?
Andrew – Dw i’n gweithio fel datblygwr meddalwedd, ac mae aelod o staff y cwmni wedi dechrau dysgu Cymraeg ar ôl clywed ein cân, felly gobeithio ’dyn ni’n gallu ymarfer gyda’n gilydd nawr.
Imy – Dw i’n gweithio i fanc bwyd, felly dw i’n trio ymarfer siarad Cymraeg gyda’r staff a’r gwirfoddolwyr. Gwnes i drefnu stondin y banc bwyd yn yr Eisteddfod eleni, felly gwnes i ymarfer siarad Cymraeg yno.
Dych chi’n siarad Cymraeg yn y gymuned/gyda ffrindiau?
Imy – Dw i’n trio siarad Cymraeg gyda phobl sy’n gwisgo bathodyn Cymraeg/Dysgwr. Hefyd, mae fy ffrindiau yn dweud wrtha i anfon negeseuon testun Cymraeg er mwyn ymarfer.
Andrew – Mae ffrind gyda ni yn ein grŵp rhedeg sy’n siarad Cymraeg, felly ’dyn ni’n ymarfer gyda fe.
Pam dewis cyhoeddi caneuon yn Gymraeg?
Imy – Ro’n i’n gyffrous iawn bod yr Eisteddfod yn dod i Bontypridd, a gwnes i ysgrifennu rhai geiriau i’r gân. Yna tair wythnos wedyn, penderfynu cystadlu yn yr Eisteddfod!
Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi’i wneud i chi?
Imy – Mae o wedi newid fy mywyd ac wedi fy ngwneud yn fwy hyderus. Ar ôl dysgu Cymraeg am bum mis, gwnes i siarad Cymraeg o flaen dros 100 o bobl mewn digwyddiad gwaith, ac eleni, gwnes i ganu’n gyhoeddus am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod.
Andrew – Dw i’n sylwi llawer mwy ar yr iaith pan dw i allan. Dw i’n mwynhau darllen arwyddion stryd Cymraeg, a chlywed cyhoeddiadau Cymraeg hefyd.
A oedd dysgu Cymraeg mewn dosbarth gyda phobl ifanc o gymorth?
Imy – Mae llawer ohonom ni wedi bod yn yr un dosbarth ers 2022, felly ’dyn ni wedi bod ar y daith gyda’n gilydd, ac mae pawb yn gefnogol iawn. Pan wnaeth Andrew a fi gael ein cyfweld ar Radio Cymru, roedd e mor neis gweld negeseuon gan bawb ar y ffôn.
Beth yw eich cyngor i ddysgwyr eraill?
Andrew – Ymarfer, hyd yn oed ar eich pen eich hun. Beth am feddwl “Sut dw i’n dweud hynny yn Gymraeg?” a rhoi cynnig arni.
Imy – Dilyn cyfrifon Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Dw i’n argymell Doctor Cymraeg a Sketchy Welsh – maen nhw’n wych.
Beth sy nesaf gyda dysgu Cymraeg?
Andrew – Mwy o ganeuon, a 1000 o ddiwrnodau ar Duolingo!
Imy – Dw i eisiau sefyll yr arholiad Sylfaen, ac fel mae Andrew wedi dweud, mwy o ganeuon!