Holi Jackie
Mae Jackie Davies yn dysgu Cymraeg ar gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac erbyn hyn mae’n defnyddio’r iaith yn y gweithle, a gyda’r teulu.
Mae Jackie yn rhedeg busnes gwyliau gyda’i gŵr, Lindsay, ac mae hefyd yn therapydd.
Yma, ’dyn ni’n holi Jackie am ei thaith i ddysgu Cymraeg…
Ble dych chi’n byw?
Ges i fy ngeni yng Nghastell-nedd, ond ges i fy magu yng Nghanada. Dw i’n byw yn Login, Sir Gaerfyrddin, ers 31 o flynyddoedd.
Pa fath o fusnes gwyliau dych chi’n ei redeg?
‘‘Dyn ni’n cynnig caban sy’n rhoi cyfle i bobl ymlacio yng nghanol cefn gwlad. Mae’r caban yn eco-gyfeillgar, ac wedi ei wneud â deunyddiau sy wedi eu hailgylchu, yn lleol.
Sut dych chi’n defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith?
Dw i’n ysgrifennu nodiadau syml yn Gymraeg yn y cardiau cyfarch sy’n cael eu rhoi yn y llety. Dw i hefyd yn siarad Cymraeg gyda gwesteion, ac adeiladwyr sy’n gwneud gwaith ar y llety.
Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Mae’r plant i gyd wedi gadael y cartref, ac maen nhw wedi dysgu Cymraeg. Mae gen i fwy o amser nawr, felly ro’n i eisiau dysgu hefyd. Mae fy ŵyr bron yn ddwy oed, ac mae’n cael ei fagu’n ddwyieithog, felly dw i’n mwynhau siarad Cymraeg gyda fe.
Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi’i wneud i chi?
’n mwynhau dysgu Cymraeg, ac mae’n rhoi rhywbeth i mi feddwl amdano pan dw i’n gwneud tasg ddiflas. Dw i hefyd yn teimlo fy mod i’n perthyn yn fwy i’r diwylliant Cymreig.
Sut dych chi’n ymarfer siarad Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth?
Dw i’n siarad Cymraeg gyda fy ŵyr a fy mab. Mae gen i ffrindiau sy’n siarad Cymraeg hefyd.
Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill sy eisiau dechrau dysgu Cymraeg?
Dechreuwch, a pheidiwch ag oedi, achos mae amser yn hedfan heibio. Dw i’n cael llawer o hwyl yn y dosbarth, a dw i’n defnyddio Duolingo hefyd.
Eich cam nesaf gyda’r Gymraeg?
Dw i’n gobeithio dilyn cwrs lefel Canolradd nesaf, a ffeindio grŵp yn y gymuned i ymarfer siarad Cymraeg.