Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Jason

Holi Jason

Mae Jason Hu wedi dechrau dysgu Cymraeg eleni, gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Beth yw dy gefndir?

Shwmae!  Jason dw i, a ches i fy magu yng Ngwlad Groeg.  Nawr, dw i'n byw yn yr Almaen.

Ers pryd wyt ti’n dysgu Cymraeg?

Dw i’n dysgu Cymraeg ers mis Ionawr 2024.  Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn daith arbennig.

Pam ddechreuaist ti ddysgu Cymraeg?

Mae gen i ddiddordeb mewn ieithoedd ac ro'n i eisiau dysgu Basgeg.  Ond, pan geisiais i brynu geiriadur Basgeg, roedd y llyfr wedi’i gyhoeddi yng Nghymru.  Felly wrth geisio cael mwy o wybodaeth am yr iaith Gymraeg, dechreuais i ddysgu’r iaith.

Beth oedd yr her fwyaf wrth ddysgu Cymraeg?
Yr her fwyaf oedd dod o hyd i gyfleoedd i siarad Cymraeg dramor.

Ond dw i’n ceisio mynychu Boreau Coffi a sesiynau Sadwrn Siarad ar-lein yn rheolaidd, a dw i'n mwynhau ymuno’n rhithiol â Chôr Dysgwyr Ardal Bae Abertawe pan mae amser gyda fi!  Mae’r llyfrau yn y gyfres Amdani yn wych i atgyfnerthu geirfa.

Mae’n bwysig iawn siarad, siarad, siarad wrth ddysgu iaith ac mae gwrando ar Radio Cymru ac edrych ar raglenni S4C yn help mawr hefyd.

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?

Dw i’n mwynhau'r ymdeimlad o gymuned wrth ddysgu Cymraeg.  Mae'r iaith ei hun yn hyfryd, ond y bobl sy'n cadw'r iaith yn fyw ac yn croesawu dysgwyr ledled y byd.

Beth fyddai dy gyngor i unrhyw un sydd eisiau dechrau dysgu Cymraeg?

Ewch amdani!  Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg wedi bod yn fendigedig i fi, wedi’u trefnu gan ddarparwyr yn y De a’r Gogledd, felly byddwn i'n dweud mai dyna'r adnodd gorau.

Beth yw’r cam nesaf ar dy daith iaith?
Bydda i'n parhau gyda chyrsiau Dysgu Cymraeg.  Dw i heb fod yng Nghymru eto, felly dw i'n edrych ymlaen yn fawr at fy nghyrsiau preswyl y flwyddyn nesaf.

Diolch o galon am y daith hyd yn hyn!