Holi Jenny Volkmer

Mae Jenny yn byw yn yr Almaen, ac yn dysgu Cymraeg ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. Dechreuodd Jenny ddysgu Cymraeg dair blynedd yn ôl, ar ôl treulio blwyddyn yn byw yng Nghymru. Yma, ’dyn ni’n dysgu mwy am daith Jenny i ddysgu Cymraeg, a’r cyngor sy ganddi i eraill sy eisiau dysgu’r iaith...
Pam ddechreuaist ti ddysgu Cymraeg?
Gwnes i fyw yng Nghymru am flwyddyn. Ro’n i eisiau byw mewn gwlad arall am ychydig, ac ysgrifennu. Dw i’n credu bod dysgu’r iaith sy’n cael ei siarad ble dych chi’n byw yn bwysig iawn. Hefyd, do’n i ddim yn gallu dweud enwau’r trefi yn gywir heb ddysgu Cymraeg.
Beth wyt ti’n mwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?
Dw i’n mwynhau cwmni’r dysgwyr eraill yn fy nosbarth ar-lein. Dw i hefyd yn mwynhau ymarfer Cymraeg trwy ddarllen llyfrau, gwrando ar bodlediadau neu wylio rhaglenni teledu.
Pa gyngor sy gen ti i ddysgwyr eraill?
Daliwch ati! Siaradwch â chi’ch hun yn Gymraeg, e.e. wrth yrru’r car, neu wrth goginio. Os dych chi’n dod ar draws gair dych chi ddim yn gwybod, yna dysgwch e.
Sut byddet ti’n annog pobl eraill i ddysgu Cymraeg?
Dweud bod dysgu Cymraeg yn llawer o hwyl! A bod siaradwyr Cymraeg bob amser yn hapus i siarad gyda chi.
Beth yw dy ddiddordebau?
Dw i’n hoffi darllen, canu’r piano, gwnïo, ysgrifennu a dysgu ieithoedd. Hefyd, dw i’n mwynhau bod yng nghanol natur wrth fynd am dro, beicio a rhedeg.
Sut mae dy fywyd wedi newid ers dysgu Cymraeg?
Dw i’n edrych ar y byd gyda llygaid gwahanol. Dw i’n sylwi ar eiriau Cymraeg mewn nofelau, mewn enwau ac yn y blaen.
Oes gen ti ffrindiau neu aelodau o’r teulu sy’n siarad Cymraeg?
Does dim aelodau o’r teulu sy’n siarad Cymraeg. Ond diolch i’r dosbarth Cymraeg, mae gen i ffrindiau sy’n siarad Cymraeg nawr.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Calon - mae’n swnio’n hyfryd, a dw i’n hoffi’r ystyr.
Beth yw’r cam nesaf ar dy daith iaith?
Dw i angen dysgu mwy, a gwella fy ngeirfa a gramadeg – yna, dw i eisiau ysgrifennu straeon yn Gymraeg.