Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Jessica

Holi Jessica

Mae Jessica Griffiths, athrawes a thiwtor piano o Wrecsam, yn dilyn cwrs Dysgu Cymraeg dwys drwy gynlluniau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer y gweithlu addysg. Yn rhan o’r cwrs dau dymor, mae’n dysgu Cymraeg yng Nghanolfan Bedwyr yn Llanelwy am ddau ddiwrnod yr wythnos ac yn parhau â’i dysgu yn rhithiol o adref am dri diwrnod yr wythnos.

Cwblhaodd Jessica y cwrs Sylfaen yn ystod tymor yr hydref 2025 ac mae ar fin cwblhau’r cwrs Canolradd yn nhymor y gwanwyn 2026. Yn ogystal â datblygu ei sgiliau Cymraeg, mae’r cwrs hefyd yn rhoi arweiniad ar sut i drosglwyddo’r iaith yn y dosbarth.

Buon ni’n holi Jessica am ei siwrnai’n dysgu Cymraeg.

Pam roeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?

Dw i eisiau dysgu Cymraeg er mwyn siarad Cymraeg yn y gwaith. Mae siarad Cymraeg yn agor drysau i fi.

Ble wyt ti’n gweithio?

Dw i’n athrawes yn Ysgol Santes Fair, Brymbo, sy’n ysgol cyfrwng Saesneg. Dw i hefyd yn gweithio fel tiwtor piano ar ôl ysgol ac mae rhai o fy nisgyblion yn siaradwyr Cymraeg, felly dw i'n defnyddio'r iaith yn ystod eu gwersi.

Sut wyt ti fel arfer yn defnyddio dy Gymraeg yn yr ysgol?

Dw i’n dysgu Blwyddyn Pump a Chwech ac yn defnyddio fy Nghymraeg bob dydd yn yr ysgol. Dw i’n dysgu gwersi Cymraeg i’r plant ac yn ceisio integreiddio’r iaith ym mhob gwers.

Sut wyt ti’n ymarfer siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth?

Dw i’n mwynhau siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. Dw i’n siarad tipyn bach o Gymraeg adref efo fy nghariad, ac os dw i'n gwybod bod rhywun yn siarad Cymraeg, dw i'n siarad yn Gymraeg â nhw.

Be ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Dw i’n teimlo’n falch i siarad Cymraeg a theimlo fy mod i’n cysylltu â’n diwylliant. Dw i’n mwynhau bod ar gwrs gyda athrawon eraill sydd yn yr un sefyllfa â fi. Dw i’n teimlo’n hyderus am fy nyfodol a ble bydd yr iaith yn fy arwain.

Be ydy dy gyngor i bobl eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?

Fy nghyngor i bobl eraill yw peidio â bod ofn! Mae camgymeriadau yn eich helpu i ddysgu, a siaradwch gymaint â phosibl yn y Gymraeg.

Be nesaf efo dysgu Cymraeg?

Bydda i’n gorffen y cwrs ym mis Ebrill. Pan fydda i’n mynd yn ôl i'r ysgol, bydda i’n siarad Cymraeg â fy nghydweithwyr, ac yn parhau i ymarfer ac adeiladu ar fy sgiliau. Dw i wedi mwynhau cael y cyfle i siarad Cymraeg efo pobl eraill, a chael tiwtoriaid cefnogol.