Holi John
Mae John Smith yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dechreuodd John ddysgu Cymraeg ar ôl symud i Gymru yn 2021.
Beth yw dy gefndir?
Dw i’n dod o’r Alban yn wreiddiol, ond ces i fy magu yn Lloegr. Ro’n i’n byw yn Essex cyn symud i Gymru.
Ers pryd wyt ti’n dysgu Cymraeg?
Dechreuais i ddysgu Cymraeg gyda SaySomethinginWelsh ar ôl symud i Gymru. Gwnes i ymuno â chwrs wyneb-yn-wyneb ym mis Medi 2022. Dw i wedi pasio lefel Mynediad a Sylfaen. Nawr, dw i’n gwneud cwrs Canolradd.
Pam ddechreuaist ti ddysgu Cymraeg?
Mae fy merch yn byw yng Nghymru ers 10 mlynedd. Ro’n i’n dwlu ar fywyd yng Nghymru a gwnes i ddechrau dangos diddordeb yn yr iaith a’r diwylliant Cymreig. Hefyd, ro’n i eisiau cwrdd â phobl newydd, a bod yn rhan o’r gymuned leol.
Beth wyt ti wedi mwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?
Dw i wrth fy modd yn dysgu Cymraeg. Fy hoff beth yw darllen straeon Cymraeg. Dw i’n mwynhau ffeindio awduron newydd, a nawr dw i’n trio darllen cerddi Cymreig. Ond, yn bennaf oll, dw i’n mwynhau dysgu gyda ffrindiau newydd.
Pa gyngor sy gyda ti ar gyfer dysgwyr eraill?
Mwynhewch y cwrs a thrio cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill sy ar gael. Manteisiwch ar bob cyfle i siarad Cymraeg yn y gymuned.
Ar wahân i ddosbarthiadau, sut wyt ti’n ymarfer siarad Cymraeg?
Dw i’n darllen y newyddion ar ap BBC Cymru Fyw bob dydd. Hefyd, dw i’n darllen llyfrau cyfres Amdani. Dw i’n defnyddio iPlayer ac S4C Clic i edrych ar raglenni Cymraeg. Dw i’n mynd i’r dafarn i siarad neu ganu gyda fy ffrindiau.
Sut mae dy fywyd di wedi newid ers dysgu Cymraeg?
Dw i wedi cwrdd â phobl newydd a gwneud llawer o ffrindiau. Dw i wedi darganfod llefydd diddorol, a dysgu am hanes Cymru.
Beth yw’r cam nesaf ar dy daith iaith?
Dw i eisiau gorffen y cwrs Canolradd, ac efallai sefyll yr arholiad. Wedyn, bydda i’n dechrau’r cwrs Uwch.