Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Karen Riste

Holi Karen Riste

Mae Karen Riste wedi derbyn Gwobr Tiwtor Ysbrydoli! yn y categori Cymraeg i Oedolion, gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith eleni. 

Dechreuodd Karen ddysgu Cymraeg fel oedolyn, er mwyn siarad Cymraeg â’i phlant.  Mae hi’n diwtor gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei drefnu ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg gan Goleg Gwent, ers 1994.

Yma, ’dyn ni’n holi Karen am y wobr, a’i thaith i ddysgu’r iaith…

Dych chi wedi ennill Gwobr Tiwtoriaid Ysbrydoli! – sut dych chi’n teimlo?

Dw i’n teimlo mor falch.  Dw i’n dwlu ar fy swydd, ac mae’n hyfryd gwybod bod tiwtoriaid eraill yn meddwl cymaint ohona i.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddysgu Cymraeg?

Pan o’n i’n disgwyl fy mab, gwnes i benderfynu dysgu ychydig o Gymraeg i siarad gyda fe.  Ro’n i eisiau i’r mab glywed y Gymraeg yn yr ysgol, ac yn y cartref hefyd.  Ar ôl i mi ddechrau dysgu, ro’n i wrth fy modd!

Oes rhywun arall yn siarad Cymraeg yn y teulu?

Oes – fy mab a fy merch.  Fy merch, Ceri, yw pennaeth adran fathemateg Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yng Nghaerdydd.  Mae fy mab, Geraint, yn helpu ei gariad, sy’n dod o Loegr, i ddysgu Cymraeg.

Sut a pham gwneud y naid o ddysgu Cymraeg i fod yn diwtor?

Pan oedd fy mhlant yn yr ysgol feithrin, gwnes i redeg cynllun wyth wythnos i helpu rhieni ddeall ychydig o Gymraeg trwy ddarllen a chanu.  Pan wnaeth y cynllun orffen, roedd y rhieni eisiau dysgu mwy.  Felly gwnes i benderfynu pasio fy arholiad Uwch, ac yna bod yn diwtor.

Unrhyw gyngor i diwtoriaid newydd?

Ewch i weld dosbarthiadau tiwtoriaid eraill, a pheidiwch â bod ofn gofyn am gymorth gan diwtoriaid eraill.

Eich hoff beth am fod yn diwtor?

Y dysgwyr – mae’n hyfryd eu gweld yn gwneud cynnydd, yn gwneud ffrindiau newydd, yn cael gwaith yn y Gymraeg, yn cymdeithasu yn y Gymraeg ac yn byw yn y Gymraeg.

Beth yw eich cyngor i bobl sy wrthi’n dysgu Cymraeg?

Daliwch ati.  Cyfathrebu yw’r peth pwysicaf.  Gwrandewch ar Radio Cymru a phodlediadau, ac edrychwch ar S4C.  Does dim ots os nad dych chi’n deall popeth – mae’n deimlad anhygoel pan dych chi’n deall brawddeg am y tro cyntaf.

Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i chi?

Mae’r Gymraeg wedi rhoi bywyd newydd i fi.  Dw i wedi gwneud ffrindiau newydd, ac mae’r iaith wedi rhoi’r swydd orau yn y byd i fi.

Llun: Karen Riste gyda Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.