Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Kathy

Holi Kathy

Yma, ’dyn ni’n holi Kathy Jones, Swyddog Cefnogi Dysgwyr Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Mae Kathy yn diwtor Dysgu Cymraeg ac yn trefnu digwyddiadau i ddysgwyr yn yr ardal.  Mae Kathy wrth ei bodd yn ei gwaith, ac yn sôn mwy am ei swydd…

O ble dych chi’n dod, a ble dych chi’n byw nawr?

Dw i’n dod o Ferthyr ac yn dal i fyw yno.  Ro’n i’n byw ar waelod y cwm, ond nawr yn byw ar ben y cwm.

Eich hoff beth am fod yn diwtor?

Dw i wrth fy modd yn gweld hyder y dysgwyr yn codi, o’r dosbarth cyntaf a thrwy’r lefelau.

Beth dych chi’n wneud o ddydd i ddydd?

Dw i’n diwtor Cymraeg, ond hefyd yn gyfrifol am greu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg.  Dw i’n cadw mewn cysylltiad â phartneriaid, busnesau, elusennau, grwpiau ac unigolion sy’n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg yn y gymuned.

Gyda phwy dych chi’n gweithio yn lleol?

Y Fenter Iaith, Cynghorau Sir, Prifysgol De Cymru, ysgolion, amgueddfeydd, tafarndai, caffis a chestyll.  Wrth weithio mewn partneriaeth, ’dyn ni’n ffeindio cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer yr iaith tu fas i’r dosbarth.  Pethau fel boreau coffi, mynd am dro, noson gwis, ymweld â lleoliadau ac ati.

Oes digwyddiad yn aros yn y cof?

Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2025.  Digwyddiad prysur dros ben, ond ro’n i wrth fy modd yn siarad â dysgwyr lleol a thu hwnt. 

Pa wahaniaeth mae cymryd rhan mewn digwyddiadau y tu allan i’r dosbarth yn ei wneud i ddysgwyr?

Dyma ble mae’r dysgwyr yn cael gafael ar yr iaith, y cyfle i siarad yn rhydd ac yn naturiol, heb strwythur.  Dyma’r cyfle i wneud camgymeriadau, ond cael hwyl mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol.

Unrhyw gyngor i diwtoriaid newydd?

Ymlaciwch a mwynhewch.  Gofynnwch am gyngor, mae eich mentor yno i’ch helpu bob amser.

Beth yw eich cyngor i bobl sy wrthi’n dysgu Cymraeg?

Does neb yn berffaith, felly ewch amdani!