Holi Lance Bradley

Mae Lance Bradley, Prif Weithredwr clwb rygbi’r Gweilch, wedi dechrau dysgu Cymraeg.
Mae’n dilyn un o gyrsiau Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sef y cynllun sy’n cryfhau sgiliau Cymraeg mewn gweithleoedd.
Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, un o ddarparwyr Y Ganolfan, sy wedi bod yn cydweithio gyda’r Gweilch, ac yn cynnal gwersi Cymraeg wythnosol i staff.
Syniad Lance oedd cychwyn y dosbarth, ac mae wedi mynychu pob gwers, gan gynnwys un o’r Antartig! Roedd ar ei wyliau yno, felly mi benderfynodd ymuno â’r wers ar-lein.
Mae’r staff eisoes yn defnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith. Maen nhw wedi dysgu termau rygbi Cymraeg, cynnwys negeseuon Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, a holi pwy sy eisiau te yn y swyddfa yn Gymraeg!
Sut mae’r gwersi’n mynd? Yma, ’dyn ni’n holi Lance…
Pam penderfynu dysgu Cymraeg?
Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio mewn nifer o wledydd, a dw i wedi trio dysgu ychydig o'r iaith leol bob tro. Dw i'n ei ffeindio'n ddiddorol, ac yn ffordd o ddangos parch hefyd.
Wyt ti’n siarad unrhyw ieithoedd eraill?
Dw i’n gallu siarad ychydig o Ffrangeg, ac ychydig bach o Almaeneg hefyd.
Beth wyt ti’n mwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?
Yr her! Mae’n wahanol i unrhyw iaith arall dw i wedi trio ei dysgu. Mae ein tiwtor, Emyr yn wych hefyd.
Ble wyt ti’n ymarfer siarad Cymraeg, y tu allan i’r dosbarth?
Dw i’n trio siarad â staff yn y swyddfa sy hefyd yn dysgu Cymraeg. Mae siarad Cymraeg ychydig bach bob dydd yn helpu.
Pa effaith wyt ti’n gobeithio y bydd y gwersi hyn yn ei gael ar y clwb?
’Dyn ni’n glwb Cymreig, felly ’dyn ni angen defnyddio’r iaith Gymraeg. Tymor nesaf, ’dyn ni’n symud i’r stadiwm newydd yn San Helen, a ’dyn ni am wneud yn siŵr bod y Gymraeg yn amlwg yno.
Wyt ti’n gobeithio defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith?
Un diwrnod, dw i eisiau gallu cynnal sgwrs yn Gymraeg. Ond yn y tymor byr, dw i eisiau dechrau cyfweliad yn Gymraeg ar S4C.
Beth ydy dy hoff air Cymraeg?
Smwddio.