Holi Louis

Dechreuodd Louis Churcher ddysgu Cymraeg ddwy flynedd yn ôl, ac mae ar fin dechrau cwrs lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Louis yn mwynhau siarad Cymraeg yn ei gampfa leol, lle mae’n ymarfer Jujitsu, ac mae hefyd yn defnyddio’r Gymraeg yn ei waith gyda Chyngor Sir Caerffili.
Pam dechrau dysgu Cymraeg?
Ro’n i eisiau dysgu Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn y gwaith. Yn gyflym iawn, gwnes i syrthio mewn cariad â’r iaith.
Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Heb os, cael cyfle i gyfarfod pobl ddiddorol o bob cefndir, a dysgu mwy am hanes Cymru.
Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i chi?
Mae dysgu Cymraeg wedi codi fy hyder, ac wedi agor llawer o ddrysau i mi.
Sut dych chi’n ymarfer siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth?
Dw i’n defnyddio SaySomethinginWelsh bob dydd, ac yn mynd i ddigwyddiadau Cymraeg yng Nghasnewydd. Dw i hefyd yn siarad Cymraeg gyda phobl yn y gampfa ac yn y gwaith.
Beth yw eich gwaith?
Dw i’n gweithio fel cynorthwyydd clerigol gyda Chyngor Sir Caerffili. Dw i’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd wrth siarad â chydweithwyr neu bobl yr ardal.
O ble ddaeth y diddordeb mewn Jujitsu?
Ro’n i’n gwylio MMA (Mixed Martial Arts) pan yn iau. Gwnes i ddechrau hyfforddi gyda Celtic Pride MMA yn 2021, a gwnes i syrthio mewn cariad â’r gamp. Dw i’n hyfforddi’n rheolaidd, ac yn cystadlu pan dw i’n gallu.
Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill?
Cofiwch siarad Cymraeg cymaint â phosib – gyda chi’ch hun, gydag eraill sy’n dysgu neu gyda siaradwyr rhugl – a defnyddiwch yr holl adnoddau gwych sy ar gael.
Eich cam nesaf gyda’r Gymraeg?
Dw i wedi pasio fy arholiad Sylfaen eleni, ac yn dechrau’r cwrs Canolradd ym mis Medi. Dw i’n gyffrous iawn i barhau â’m taith Gymraeg – alla i ddim aros i weld fy nhiwtoriaid, Gareth a Ruth.