Holi Manuela Niemetscheck
Yma, ’dyn ni’n holi Manuela Niemetscheck, enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae Manuela yn gweithio fel Seicotherapydd Celf yn Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd.
O ble dach chi’n dod a beth yw eich cefndir?
Dw i’n dod o Ganada yn wreiddiol. Fy iaith gyntaf yw Saesneg ac fe ges i fy addysg trwy gyfrwng y Ffrangeg. Ro’n i’n clywed Almaeneg ac Almaeneg y Swistir adref a phan oeddwn i yn fy arddegau, ro’n i’n cael gwersi Sbaeneg. Ar ôl astudio ar gyfer gradd Celfyddyd Gain, mi wnes i symud i Gatalwnia a dysgu Catalaneg. Ar ôl symud i Gymru, mi wnes i ddysgu Cymraeg a chwblhau fy ngradd meistr mewn Therapi Celf. Dw i bellach yn gweithio’n ddwyieithog.
Pam oeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?
Roedd yn benderfyniad amlwg i fi i ddysgu iaith y wlad ro’n i bellach yn byw ynddi ac i allu ymwneud â fy nghymuned sy’n bennaf Gymraeg ei hiaith. Wrth gynnig gwasanaeth yn y Gymraeg a Saesneg, dw i’n teimlo y galla i weithio’n well gyda fy nghleifion sy’n amlieithog.
Sut/ble wnaethoch chi ddysgu?
Mi wnes i ddilyn cyrsiau WLPAN ac astudio yn Nant Gwrtheyrn. Bellach, dw i’n ymarfer bob dydd ac yn ceisio ymdrochi yn yr iaith. Dw i’n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, darllen llyfrau Cymraeg (rhai plant) ac yn siarad Cymraeg gyda fy nheulu, ffrindiau, cydweithwyr ac yn y gymuned. Dw i hefyd yn cael goruchwyliaeth cymheiriaid reolaidd gan Seicotherapydd Celf sy’n siarad Cymraeg a dw i’n myfyrio ar rôl yr iaith yn fy ymarfer clinigol seicotherapi celf gyda nhw.
Pryd a ble dach chi’n defnyddio eich Cymraeg?
Dw i’n defnyddio fy Nghymraeg bob dydd! Dw i’n ceisio dechrau pob sgwrs yn Gymraeg achos dych chi byth yn gwybod pwy sy’n siarad Cymraeg tan eich bod chi’n trio. Mi wnes i fagu fy mhlant trwy gyfrwng y Gymraeg felly dw i’n ffodus i allu siarad gyda nhw a dysgu ganddynt.
Beth yw eich hoff air Cymraeg?
Ling di long.
Beth yw eich hoff lyfr/rhaglen deledu Cymraeg?
Dw i’n darllen llyfrau a gwylio rhaglenni teledu gyda fy mhlant gan amlaf. Roedd fy hoff raglen ar Cyw pan oedd y plant yn iau. Roedd Catrin Finch yn chwarae’r delyn wrth i storïwr adrodd stori. Ro’n i’n dwlu ar y straeon a sut roedd cerddoriaeth Catrin yn dod â’r holl beth yn fyw!
Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Mae’n bwysig cael hwyl wrth ddysgu a cheisio peidio â phoeni’n ormodol am wneud camgymeriadau. Dw i’n gwneud camgymeriadau bob tro dw i’n siarad! Gall dyfalbarhau â’r dysgu gymaint ag y gallwch dalu ar ei ganfed.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair!
Creadigol, chwilfrydig a gofalgar.