Holi Mari, un o Diwtoriaid Yfory
Dyma Mari Hefin, un o’r criw aeth ar gwrs Tiwtoriaid Yfory 2025, cynllun hyfforddi’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o weithio fel tiwtor yn y sector Dysgu Cymraeg i oedolion. Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Mari bellach yn byw yng Nghaerdydd. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yn y brifysgol, cyn mynd ymlaen i wneud gradd meistr yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Buon ni’n holi Mari am y cwrs.
Pam roeddet ti eisiau gwneud y cwrs Tiwtoriaid Yfory?
Mae gen i angerdd dros yr iaith Gymraeg ac ro’n i eisiau rhannu hynny â phobl eraill. Ro’n i hefyd yn chwilio am gyfle i ddatblygu fy sgiliau addysgu mewn ffordd gefnogol a phwrpasol.
Sut aeth y cwrs?
Roedd y cwrs yn wych, mwynheais i bob diwrnod ohono. Roedd pob dydd yn wahanol ac roedd hi’n braf cwrdd â phobl newydd. Roedd yr awyrgylch yn gefnogol ac yn ysbrydoledig.
Pa fath o sesiynau gawsoch chi?
Cawson ni sesiynau ar dechnegau addysgu, cynllunio gwersi, defnyddio adnoddau Dysgu Cymraeg, a sut i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Roedd hefyd sesiynau ymarferol lle cawson ni gyfle i arwain gweithgareddau a chael adborth.
Beth oedd y peth gorau am y cwrs?
Un o’r agweddau gorau ar y cwrs oedd y cyfle i gwrdd â phobl – boed yn ddysgwyr neu’n diwtoriaid. Uchafbwynt arbennig i mi oedd arwain sesiwn fy hun am y tro cyntaf; er fy mod ychydig yn nerfus, roedd y profiad yn hynod werthfawr ac yn rhoi hyder i mi fel tiwtor.
Rwyt ti wedi cael swydd fel tiwtor – llongyfarchiadau! Ble?
Ydw – dw i’n dysgu Cymraeg i oedolion ym Mhrifysgol Met Caerdydd fel rhan o gynlluniau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer y sector addysg. Dw i’n cymryd sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac yn dysgu myfyrwyr y brifysgol ac ambell ddosbarth staff hefyd.
Beth yw’r peth gorau am fod yn diwtor Dysgu Cymraeg?
Y peth gorau am fod yn diwtor Dysgu Cymraeg yw gweld dysgwyr yn magu hyder ac yn dechrau defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae’n fraint cael bod yn rhan o’u taith ieithyddol ac i rannu fy nghariad at yr iaith gyda nhw. Dw i’n mwynhau bod yn greadigol wrth gynllunio gwersi bywiog, diddorol ac addas i anghenion y dysgwyr.
Beth faset ti’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried gyrfa fel tiwtor Dysgu Cymraeg?
Ewch amdani! Mae’n waith gwerth chweil, llawn boddhad, ac mae’r cymorth sydd ar gael yn rhagorol. Os oes gennych chi gariad at yr iaith a diddordeb mewn helpu eraill, mae’n llwybr gyrfa gwych.