Holi Mei Gwynedd
Ers sawl blwyddyn bellach, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn trefnu bod cerddorion ac artistiaid Cymraeg yn ymweld â’i darparwyr cyrsiau ledled Cymru i gynnal gig, fel ffordd o gyflwyno diwylliant cyfoes Cymraeg. Un o gerddorion cynllun ‘Y Gair a’r Gân’ ar gyfer 2025-2026 ydy Mei Gwynedd.
Daw Mei Gwynedd o Waunfawr, ger Caernarfon. Symudodd i Fanceinion i astudio Technoleg Cerdd pan oedd yn 16 oed. Erbyn hyn, mae’n byw yng Nghaerdydd, yn gerddor llawrydd, ac yn gweithio gyda ysgolion a chymunedau yn cyfansoddi a chynhyrchu. Yn ogystal, mae’n rhedeg stiwdio a label JigCal, yn arweinydd ar gerddorfa ukulele, ac yn brysurach nag erioed yn perfformio’n fyw gyda band Tŷ Potas.
Buon ni’n sgwrsio â Mei wrth iddo baratoi at ei daith o gwmpas Cymru...
Pryd ddechreuodd dy ddiddordeb mewn cerddoriaeth?
Dechreuodd fy niddordeb mewn cerddoriaeth yn ifanc iawn, a ffurfiwyd y band Beganifs pan oeddwn i’n 13 oed. Ges i lawer o hwyl yn teithio Cymru ac Ewrop, ac roedd yn adeg gyffrous iawn i fod mewn band Cymraeg yn y 90au. Dw i wedi parhau i ysgrifennu a chynhyrchu hyd heddiw. Fy mhrif offeryn ydy’r gitâr (er bysa rhai yn dadlau yr ukulele!) ond mi fedra i droi fy llaw at offerynnau eraill.
Pa fath o ganeuon wyt ti’n eu canu neu gyfansoddi?
Ges i fy magu yn gwrando ar lawer o gerddoriaeth Gymraeg fel Edward H Dafis, Dafydd Iwan (yn enwedig am ei fod yn byw yn Waunfawr ar y pryd), ac roedd llawer o gasetiau Gwyddelig yn y tŷ hefyd, fel Christy Moore a’r Dubliners. Roedd Mam yn ffan mawr o’r Beatles ac Elvis, felly cymysgedd go iawn! Dw i’n amau bod cerddoriaeth fel hyn wedi dylanwadu arna i, yn ogystal â llawer o gerddoriaeth y 90au.
Does gen i ddim diddordeb dilyn ffasiwn y dydd gyda cherddoriaeth – os ydy’r gân yn gweithio gyda gitâr a llais, mae’n dangos i mi efallai bod rhywbeth ynddi!
Pa gig ydy’r hoff gig i ti ei chwarae erioed?
Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i brofi gymaint o uchafbwyntiau, ac mae’n anodd iawn trio dewis un gig. Rhai uchafbwyntiau oedd teithio i Tecsas gyda Big Leaves, cefnogi Oasis yn Stadiwm y Mileniwm gyda The Peth, ac yn fwy diweddar roedd y profiad o fod yn gynhyrchydd cerdd ar noson Nwy Yn Y Nen (Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025) i gofio Dewi Pws yn arbennig – mi wnes i dderbyn het enwog Dewi yn rhodd gan ei wraig ar y diwedd. O ran hwyl, mae sioeau Tŷ Potas yn y Babell Lên dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn arbennig!
Oes gen ti unrhyw arwyr cerddorol?
Y cerddorion dw i’n eu hedmygu, ac sy’n dal i roi ysbrydoliaeth a phleser i mi ydy enwau fel John Lennon a Paul McCartney, Bob Dylan, Paul Simon, Springsteen ac Etta James.
Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf fel un o gerddorion ‘Y Gair a’r Gân’ eleni?
Dw i’n edmygu unrhyw un sy’n gwneud yr ymdrech i ddysgu Cymraeg, ac mae’n rhan bwysig iawn o fy swydd fel cerddor. Mae gwrando ar gerddoriaeth yn ffordd wych o ddysgu iaith, a dan ni’n cael llawer o ddysgwyr yn ymuno â’r gerddorfa ukulele am y rheswm hyn. Peth arall gwych am fod yn gerddor ydy gallu teithio i lefydd gwahanol, a chyfarfod pobl newydd. Mi fydda i’n canu sawl cân cyfarwydd ac yn annog pawb i ganu efo fi – felly peidiwch â bod yn swil!
Be ydy dy hoff air Cymraeg?
Coelcerth.
Be ydy dy gyngor i bobl sy’n dysgu Cymraeg?
Daliwch ati, a trïwch ei defnyddio mor aml â phosib. Un o’r pethau dw i’n ei garu am y Gymraeg ydy tafodieithoedd gwahanol, ac mae’n llawer o hwyl dysgu geiriau lleol. Mae hyn wedi dod i’r amlwg i fi, Cofi Gwlad, sy wedi gweithio tipyn yn Sir Benfro a Cheredigion dros y blynyddoedd diwethaf!
Un gân dw i eisiau ei gwneud ar y daith yma ydy cyfieithiad o ‘Lid Of Me Granny’s Bin’ gan Geraint Evans. Dyma flas arni – dw i’n edrych ’mlaen i’ch gweld!
Sdim ots am gamgymeriad, cam dreiglo ambell wall
Yr hyn sy’n bwysig i ni oll yw bwrw ’mlaen heb ball
Cael sgwrs a chyfathrebu, nid poeni a gweld bai
A wedyn bydd ein hymdrech, yn helpu y to iau.