Holi Melody
Dyma Melody Griffiths o Wrecsam. Llwyddodd Melody i ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
Mae’n 17 oed ac yn fyfyriwr yng Ngholeg Cambria.
Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei rhoi i berson ifanc rhwng blwyddyn 10 ac o dan 19 oed sy’n defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.
Cawson ni sgwrs gyda Melody am ei thaith yn dysgu Cymraeg a’r profiad o ennill Medal y Dysgwyr.
Sut brofiad oedd ennill Medal y Dysgwyr yn yr Eisteddfod?
Roedd yn brofiad gwych, ac roedd yn foment falch iawn o fy mywyd.
Fy Eisteddfod gyntaf oedd Maldwyn eleni. Ces i amser hyfryd iawn, yn enwedig achos dw i wedi ennill wrth gwrs!
Pryd wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?
Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg yn iawn yn ystod blwyddyn 11. Mae fy nghariad a rhai o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg, felly dw i’n cael llawer o gyfle i ymarfer efo nhw.
Beth wyt ti'n astudio yn y Coleg?
Dw i’n astudio Cymraeg, Gwleidyddiaeth, a’r Cyfryngau.
Dw i newydd orffen y cwrs Cymraeg Lefel A, ac mae un arholiad Cymraeg yn weddill.
Rwyt ti’n cynnal clwb Cymraeg yn y coleg - beth dach chi'n ei wneud yn y clwb?
Mae’r clwb yn cyfarfod bob wythnos. Mae myfyrwyr yn dod i ddysgu mwy am y Gymraeg, diwylliant, a hanes trwy gwisiau a sgyrsiau hamddenol.
Beth yw'r peth gorau am siarad Cymraeg?
Dw i’n meddwl mai’r peth gorau yw fy mod i’n gallu cysylltu gyda Chymru yn well - trwy ddiwylliant a llenyddiaeth. Mae’n anodd deall rhain os nad dach chi’n siarad Cymraeg.
Beth wyt ti'n gobeithio ei wneud yn y dyfodol?
Dw i’n gobeithio mynd i Brifysgol Aberystwyth i wneud gradd yn y Gymraeg, ac ar ôl hynny, baswn i’n hoffi bod yn athrawes Gymraeg.