Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Paddy

Holi Paddy

Mae Paddy Davidson yn dod o Belfast. Dechreuodd ddysgu Cymraeg tua dwy flynedd yn ôl gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Buon ni’n holi Paddy am ei daith gyda’r Gymraeg...

Pam roeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?

Ers yn blentyn, mae diddordeb wedi bod gyda fi mewn ieithoedd. Ro’n i’n dysgu Ffrangeg a’r Wyddeleg yn yr ysgol. Ro’n i eisiau trio dysgu iaith Geltaidd arall ac ro’n i’n meddwl y basai’r Gymraeg yn her. Mae Cymru yn agos at Iwerddon, felly fydd dim rhaid i fi fynd yn bell i ymarfer yr iaith.

Sut dych chi’n dysgu?

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg gyda fy nhiwtor ysbrydoledig, Ruth Lloyd. Dw i wedi gwneud dosbarthiadau adolygu gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe a Dysgu Cymraeg Gwent.

Ymunais â grŵp darllen gyda Mansel Jones a ddysgodd lawer i fi am hanes a mytholeg Cymru. Y llynedd, es i i Nant Gwrtheyrn am gwrs wythnos o hyd. Roedd yn gyfle bendigedig i gwrdd â phobl a siarad â nhw wyneb yn wyneb. Dw i hefyd yn trio gwneud tipyn bach o ‘SaySomethinginWelsh’ bob dydd.

Pryd a ble dych chi’n defnyddio eich Cymraeg?

Mae ffrind gyda fi sy’n dysgu Cymraeg. Pan ’dyn ni’n gallu, ’dyn ni’n mynd am baned a sgwrs.

Ar daith ddiweddar i Gaerdydd, es i i Amgueddfa Sain Ffagan a siaradais i Gymraeg gyda phawb yno. Ces i ddiwrnod gwych!

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Mae dysgu Cymraeg mewn grŵp wedi rhoi’r cyfle i fi gwrdd â llawer o bobl newydd, nid yn unig o Gymru ond o bob cwr o’r byd. Dw i hefyd wedi fy synnu gan faint o adnoddau sy ar gael i ddysgwyr Cymraeg. Dw i wedi mwynhau dysgu am hanes, llenyddiaeth, cerddoriaeth a diwylliant Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth yw eich diddordebau?

Mae llawer o ddiddordebau gyda fi. Dw i wrth fy modd yn chwarae pêl-droed gyda fy ffrindiau. Dw i’n hoffi darllen hefyd, a nawr, dw i’n mwynhau darllen yn Gymraeg. Fy hoff awdur Cymraeg yw Pegi Talfryn. Dw i’n hoffi teithio a dw i’n trio mynd i Gymru pan fydda i’n cael cyfle. Mae ci defaid gyda fi o’r enw Luna, a dw i’n mynd â hi am dro bob dydd.

Dych chi’n siarad unrhyw ieithoedd eraill?

Dw i’n siarad Gwyddeleg yn rhugl a dw i’n gallu siarad tipyn bach o Gaeleg yr Alban hefyd. Gwyddeleg yw iaith y tŷ ac mae fy mhlant yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Wyddeleg. Mae fy ngwraig yn dod o Croatia yn wreiddiol, felly dw i wedi dysgu Croateg hefyd. Dw i’n dal i gofio rhywfaint o Ffrangeg o fy nyddiau ysgol.

Beth yw eich cyngor i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Daliwch ati a byddwch chi’n magu hyder. Gwnewch tipyn bach bob dydd!

Beth yw’r cam nesaf gyda dysgu Cymraeg?

Dw i newydd ddechrau cwrs Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg a dw i’n edrych ymlaen i fynd i’r dosbarthiadau rhithiol gyda fy nhiwtoriaid, Gareth a Ruth. Alla i ddim credu nad oedd gair o Gymraeg gyda fi ar yr adeg hon ddwy flynedd yn ôl! Mae’r daith iaith yn parhau!

Hoff air Cymraeg?

Does dim hoff air Cymraeg gyda fi ond dw i’n dwlu ar yr ymadrodd:

Roedd rhaid i fi godi “cyn cŵn Caer!”