Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi’r darlunydd, Joshua Morgan

Holi’r darlunydd, Joshua Morgan

Roedd Joshua Morgan yn un o’r pedwar a gyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

Mae Josh yn ysgrifennu a darlunio llyfrau o dan yr enw Sketchy Welsh.  

Dwed ychydig amdanat ti – pwy wyt ti ac o ble wyt ti’n dod?

Darlunydd dw i. Dw i'n byw yng Nghaerdydd gyda fy ngwraig a dau fab. Ces i fy ngeni ym Mhen-y-bont ar Ogwr ond symudais i ganolbarth Lloegr pan o’n i’n eithaf ifanc. Symudais yn ôl i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Dw i’n treulio llawer o fy amser yn y môr, yn chwarae cerddoriaeth, ac yn ddiweddar, yn dysgu a siarad Cymraeg!

Sut/ble wnest ti ddysgu Cymraeg?

Pan o’n i’n byw yn Ne Affrica, dysgais yr iaith ‘isixhosa’. Dyna pryd gwnes i sylweddoli ei bod yn bosib i fi ddysgu iaith arall, a bod iaith yn rhan hanfodol o gysylltu gyda diwylliant. Pan symudais yn ôl i Gymru, ro’n i'n awyddus i ddysgu Cymraeg. Ro’n i’n defnyddio SaySomethinginWelsh (SSIW), a llynedd, cofrestrais ar gwrs Dysgu Cymraeg.

Gan fy mod i’n ddarlunydd, dw i’n gwneud darluniau i wneud geiriau a brawddegau newydd yn fwy cofiadwy i fi fy hun. Dechreuais i rannu'r lluniau ac roedd llawer o bobl eraill yn mwynhau dysgu geiriau Cymraeg trwy gyfrwng gweledol. Dyna oedd dechrau fy ymgyrch i ddarlunio’r iaith Gymraeg o dan yr enw ‘Sketchy Welsh’.

Beth yw dy lyfr newydd, ‘Ble ydw i?’

Yn fy llyfr newydd, ‘Ble ydw i?’, mae casgliad o gwestiynau ac atebion ynghyd â'm darluniau i helpu pobl sy’n dysgu Cymraeg i siarad yr iaith yng Nghymru. Dw i wedi ceisio defnyddio iaith a strwythurau cyffredin y gall pobl eu defnyddio. Dw i bob amser yn rhyfeddu cymaint dych chi’n gallu ei ddysgu trwy geisio deall brawddegau syml iawn. Bydd y llyfr yn ddefnyddiol i ddysgwyr mwy profiadol hefyd, achos ei bod yn bosib ateb y cwestiynau mewn sawl ffordd. Mae’r darluniau yn eithaf rhyfedd, lliwgar, ac yn ddoniol er mwyn gwneud y llyfr yn bleserus ac yn gofiadwy!

Ble ydw i?

Beth sy’n dy ysbrydoli i ysgrifennu/darlunio?

Mae gen i ddiddordeb mewn ysgrifennu storïau. Dechreuais i ddysgu sut i ddarlunio er mwyn gallu defnyddio’r darluniau yn y storïau dw i wedi bod yn eu hysgrifennu. I ddechrau, dysgais sut i ddarlunio pethau fel yr esgyrn a’r corff. Wedyn, es i ati i arbrofi er mwyn darganfod fy arddull syml fy hun i greu’r llyfrau lluniau. Dw i wedi gwneud tipyn o ffotograffiaeth ddogfennol yn y gorffennol, a dw i’n mwynhau rhoi dyfnder i fy nghymeriadau.

Pryd ddechreuodd dy ddiddordeb mewn darlunio?

Dechreuais i ddysgu sut i ddarlunio tua chwe blynedd yn ôl. Mae’n deimlad gwych gallu cyfuno’r ddau beth – darlunio a dysgu Cymraeg.

Wyt ti’n hoffi darllen? Beth yw dy hoff lyfr?

Ydw, dw i’n treulio llawer o fy amser yn darllen. Dw i’n darllen ‘Yr Hobyd’ yn Gymraeg ar hyn o bryd. Dw i hefyd yn darllen ‘The Assembly of the Severed Head’ gan Hugh Lupton am greadigaeth y Mabinogion. Dw i’n caru gwaith Dylan Thomas ac yn mwynhau ‘Under Milk Wood’ a ‘Dan y Wenallt’. Dw i hefyd yn caru gwaith R. S. Thomas, Emily Dickenson, a Ted Hughes. Dw i ddim yn hollol siŵr pa un yw fy ffefryn, efallai ‘East of Eden’ neu’r Mabinogion. 

Lle wyt ti’n ysgrifennu/darlunio?

Dw i’n aml yn gweithio yng nghaffi ‘First Light’ yn Nhongwynlais. Lle da iawn. Dw i wrthi’n  adeiladu desg gyda fy mrawd ar hyn o bryd er mwyn stopio gwneud popeth ar y bwrdd cinio!

Oes unrhyw lyfrau eraill ar y gweill?

Oes! Dw i wastad yn gweithio ar brosiectau gwahanol. Dw i’n gobeithio gorffen fy llyfr am ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ eleni. Dw i wedi bod yn creu gêm gardiau hefyd, a thua 10 o bethau eraill.