Holi Rachel

Dechreuodd Rachel ddysgu Cymraeg flwyddyn yn ôl, ac mae newydd gwblhau cwrs Mynediad 1 gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae'n mwynhau defnyddio'r Gymraeg gyda’i phlant, ac mae wedi dechrau garddio yn ddiweddar. Cafodd Rachel ei chyfweld ar raglen Garddio a Mwy ar S4C ac mae bellach yn defnyddio’r Gymraeg wrth dreulio amser yn yr ardd.
Pam dechrau dysgu Cymraeg?
Dechreuais ddysgu Cymraeg pan aeth fy merch i ysgol Gymraeg y llynedd. Ro’n i eisiau dysgu ers tro, ond gwnaeth cael y plant roi hwb i mi chwilio am wersi.
Pam penderfynu anfon y plant i ysgol Gymraeg?
Mae’n bwysig cadw’r iaith yn fyw, ac mae addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi cyfle i blant brofi diwylliant Cymreig – rhywbeth na ches i yn blentyn. Mae hefyd yn fanteisiol i’r plant - nid yn unig yn academaidd, ond i ddysgu sut i ddangos parch tuag at ddiwylliannau ac ieithoedd eraill.
Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Dw i wedi cwrdd â chymaint o bobl anhygoel, ac wedi gwneud ffrindiau oes yn y dosbarth. Dw i’n mwynhau darllen llyfrau Cymraeg, gwylio rhaglenni teledu Cymraeg a mynd i’r Eisteddfod a digwyddiadau eraill.
Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi’i wneud i chi?
Mae dysgu Cymraeg wedi gwneud i mi deimlo’n nes at fy ngwreiddiau. Dw i’n teimlo’n fwy hyderus wrth helpu fy mhlant gyda’u sgiliau darllen ac ysgrifennu. Dw i wedi gwneud ffrindiau newydd a dw i’n mwynhau’r her o ddysgu iaith newydd.
Sut dych chi’n ymarfer siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth?
Dw i’n ymarfer gyda fy mhlant, ’dyn ni’n gwylio rhaglenni Cyw ar S4C ac yn darllen llyfrau Cymraeg. Dw i wedi dod o hyd i grwpiau lleol i ddysgwyr – corau, cwisiau, grwpiau cerdded neu gymdeithasau – dw i’n trio mynd pan dw i’n gallu. Dw i hefyd yn mwynhau cyfres lyfrau Amdani ac yn gwrando ar bodlediadau i ddysgwyr.
Dych chi’n defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith?
Dw i’n gweithio i Lywodraeth Cymru ac yn cydweithio â phobl ar draws Cymru sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae dechrau sgwrs yn Gymraeg yn helpu i greu cysylltiad ar unwaith. Er nad ydw i’n gallu cynnal sgwrs broffesiynol eto, mae pawb yn gwerthfawrogi pan dw i’n rhoi cynnig arni.
O ble ddaeth y diddordeb mewn garddio?
Dw i wastad wedi mwynhau’r awyr agored ac fe ddechreuais arddio pan o’n i ar gyfnod mamolaeth. Dw i’n ymlacio wrth arddio, ac mae wedi bod o gymorth i fy iechyd meddwl. Dw i wedi dechrau labelu fy mlodau a llysiau yn Gymraeg. Gwnaeth ffrind roi cardiau fflach i mi oedd yn cynnwys enwau adar yn Gymraeg, felly dw i’n defnyddio nhw.
Sut brofiad oedd gwneud y cyfweliad ar gyfer Garddio a Mwy?
Ro’n i’n nerfus iawn, ond roedd y cyfarwyddwr mor gefnogol. Ro’n nhw’n gadael i mi gymryd fy amser, ac yn hapus i mi ddefnyddio’r Saesneg os oedd angen. Roedd e’n brofiad gwych, a gwnaeth fy annog i ddefnyddio’r Gymraeg sy gen i.
Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill?
Ymarfer â chymaint o siaradwyr Cymraeg â phosib – wrth gatiau’r ysgol, mewn siopau, yn y dafarn. Dyna’r ffordd orau i ddysgu. Hyd yn oed os wyt ti’n meddwl nad yw dy Gymraeg yn ddigon da, rho gynnig arni – a phob lwc!