Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Rhianydd Webb

Holi Rhianydd Webb

Mae Rhianydd Webb yn byw ym Mhontypridd.  Mae’n dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Mae’n hoffi creu ac addurno cacennau, ac mae ganddi gwmni o’r enw Dragons and Daffodils.  Mae hefyd yn trefnu gweithdai, er mwyn dysgu pobl sut i addurno cacennau.  Yma, ’dyn ni’n holi Rhianydd am y busnes, ac am ddysgu Cymraeg.

O ble daeth y diddordeb mewn addurno cacennau?

Ro’n i’n chwilio am gacen ar gyfer pen-blwydd cyntaf fy mab, a doedd dim llawer ar gael. Felly, gwnes i gacen fy hun, a dyna’r dechrau.

Y gacen fwyaf anodd i chi ei haddurno?

Yn 2022, ro’n i’n gorfod gwneud cannoedd o flodau gwyllt mas o bast siwgr.  Roedd y blodau yn cael eu rhoi ar gacen i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm.  Gwnaeth y gwaith gymryd wythnosau, ond roedd yn brofiad arbennig.

Pam enwi’r cwmni yn Dragons and Daffodils?

Ar yr adeg pan o’n i’n chwilio am enw i’r busnes, ro’n i’n creu cacen siâp draig, a chennin pedr i’w rhoi ar gacen arall, felly dyna pam!

Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Pan o’n i’n gweithio ar stondin yn ffair Garth Olwg, ro’n i’n clywed pobl yn siarad Cymraeg.  Ro’n i’n drist bod gen i enw fel Rhianydd, ond yn methu siarad gair o Gymraeg.  Gwnes i ddechrau gyda Duolingo yn 2022, cyn dechrau cwrs lefel Sylfaen gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg.  Nawr, dw i’n dysgu ar lefel Canolradd.

Dych chi’n defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith?

Ydw, yn ogystal â’r busnes cacennau, dw i hefyd yn gweithio gyda Busnes Cymru.  Felly, dw i’n defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith bob dydd, gyda chymorth y tîm.

Dych chi eisiau gweithio mwy trwy gyfrwng y Gymraeg?

Yn bendant.  Dw i wedi gwneud un gweithdy addurno cacennau yn Gymraeg.  Menter Iaith Rhondda Cynon Taf wnaeth drefnu’r gweithdy, roedd e’n wych!

Eich gobeithion ar gyfer y busnes i’r dyfodol?

Yn y dyfodol agos, dw i eisiau trefnu mwy o weithdai addurno cacen dwyieithog.

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Heb os, ymuno â’r gymuned Gymraeg.  Mae wedi agor llawer o ddrysau i fi, a dw i’n ddiolchgar iawn am hynny.

Dych chi’n canu gyda Chôr Dysgwyr y Cymoedd – beth yw’r peth gorau am y côr?

Mae pawb mor gefnogol yn y côr, dw i wrth fy modd yn canu gyda nhw. 

Unrhyw gyngor i ddysgwyr Cymraeg eraill?

Rhaid i chi drochi eich hun yn yr iaith cymaint â phosib.  Dyw hi byth rhy hwyr i ddechrau dysgu, peidiwch â phoeni am y camgymeriadau – ewch amdani!