Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Richard Parks

Holi Richard Parks

Mae Richard Parks, yr anturiaethwr a’r cyn chwaraewr rygbi, yn cyflwyno cyfres newydd ar S4C.  Mae 24 awr Newidiodd Gymru yn trafod digwyddiadau pwysig yn hanes Cymru, ac mae ’mlaen bob nos Fawrth am 9 o’r gloch.

Mae Richard yn dysgu Cymraeg, a dyma’r tro cyntaf iddo gyflwyno cyfres yn Gymraeg.  Mi wnaeth gymryd rhan yn rhaglen Iaith ar Daith yn 2022, ac mae’n ymarfer siarad Cymraeg gyda Aran Jones, wnaeth greu SaySomethinginWelsh.

Yma, dan ni’n holi Richard am y gyfres a mwy…

Beth yw'r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Mae’r Gymraeg wedi rhoi perthynas wahanol i mi gyda fy ngwlad.  Dw i wastad wedi bod yn falch o fod yn Gymro, ond mae dysgu’r iaith wedi galluogi mi i ddeall pwy ydyn ni’n well.

Sut brofiad oedd cymryd rhan yn Iaith ar Daith?

Roedd yn arbennig, ac mi wnaeth newid fy mywyd.  Roedd y tîm cynhyrchu a SaySomethinginWelsh yn wych.  Roedd fy mhartner dysgu, Lowri Morgan, yn anhygoel hefyd.

Wyt ti’n hoffi cyflwyno yn Gymraeg?

Ydw, er ro’n i’n nerfus iawn cyn cychwyn ffilmio.  Ond roedd y tîm oedd yn gweithio gyda fi yn wych.  Dw i’n falch iawn o’r gyfres hon, a baswn i’n hoffi cyflwyno yn Gymraeg eto yn y dyfodol.

O ble ddaeth y diddordeb mewn hanes Cymru?

Dw i wastad wedi dangos diddordeb mewn hanes.  Pan yn blentyn, do’n i ddim yn teimlo fy mod i’n perthyn i unrhyw le, achos roedd fy mam yn dod o dras Jamaica a fy nhad o dras Gymreig.  Mi wnaeth y rhwystredigaeth yna, a’r ffaith fy mod wedi dod yn dad, roi’r sbardun i mi greu 24 awr.

Beth yw dy gynlluniau ar gyfer 2025?

Cyhoeddi We are Wales, llyfr i blant dw i wedi cyfrannu tuag ato sy’n gyffrous iawn.  Dw i’n gobeithio dechrau cynhyrchu cyfres arall ar hanes Cymru cyn bo hir.  Bob dydd dw i’n defnyddio ap SaySomethinginWelsh er mwyn gwella fy Nghymraeg.  Dw i’n treulio diwrnod bob mis yn y gogledd gyda Aran Jones.

Unrhyw gyngor i eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?

Dim ond pump neu ddeng munud y dydd dych chi angen a chofiwch gael llawer o hwyl!  

Dyma flas o'r gyfres isod: