Holi Shân Cothi
Mae Shân Cothi yn cyflwyno rhaglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru bob bore Llun-Gwener ar BBC Radio Cymru. Mae wythnos nesaf (10-17 Hydref) yn Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg Radio Cymru a bydd Shân yn siarad gyda nifer o ddysgwyr diddorol yn ystod yr wythnos. Beth am ddysgu mwy amdani hi?
Beth yw dy ddiddordebau?
Marchogaeth, seiclo a darllen
Dy hoff fwydydd?
Cawl Cothi! Taflu popeth mewn - a lasagne a stecen!
Dy uchelgais?
Cael perfformio mewn theatr lawn eto!
Un peth doniol sydd wedi digwydd i ti.
Fe wnes i lwyddo i fethu ateb neges destun gan Syr Bryn Terfel yn gofyn i fi berfformio rhan Mrs Lovett yn ‘Sweeney Todd’ gyda fe ar lwyfan Tŷ Opera Zurich o fewn 48 awr! Ges i’r neges yn diwedd a do fe wnes i berfformio!
Dy noson ddelfrydol?
Cynnau tân agored a chael swper cartref blasus mewn golau canwyll gyda’r cŵn, a heb anghofio cael cwtsh!
Pwy fyddet ti’n hoffi cael pryd o fwyd gydag e/hi a pham?
Madame Patti - y ganotores opera a gafodd yrfa anhygoel . Dwi’n dwli ar hanes Craig y Nos.
Dy hoff gân Gymraeg?
Mae’n anodd dewis achoss ma sawl un dwi’n ei charu, o ganeuon i emyn donau. Dwi wrth fy modd gyda ‘O Gymru’ gn Rhys Jones.
Dy wyliau gorau erioed.
Unrhyw wyliau sgïo - lot o atgofion ac uchafbwyntiau o wyliau i’r Alpau a Whistler.
Dy hoff air Cymraeg?
Pendwmpian neu hiraeth
Cyngor neu neges i ddysgwyr y Gymraeg?
Dyfal donc a dyrr y garreg . Cadwch i wrando ar Bore Cothi a BBC Radio Cymru. Diolch am fod yn ffyddlon!