Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Siân Phillips

Holi Siân Phillips

Mae Siân Phillips yn dilyn cwrs Sylfaen gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain/Popeth Cymraeg, un o ddarparwyr cyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mi gaethon ni sgwrs efo Siân i ddysgu mwy am ei thaith iaith. 

Pwy dach chi ac o le dach chi’n dŵad?

Ro’n i’n arfer gweithio fel prif nyrs theatr llawdriniaethau ond dw i wedi ymddeol rŵan. Mi ges i fy ngeni a’m magu yn Lerpwl. Cymraeg oedd iaith gyntaf fy nhad, ond doedd o ddim yn siarad Cymraeg efo fi na fy mrawd a fy chwiorydd.

Dw i’n teimlo fel Cymraes, a dw i bob amser wedi isio medru dysgu’r iaith. Pan symudes i Ynys Môn tua 30 mlynedd yn ôl, ro’n i’n benderfynol o gofrestru ar gwrs a dysgu’r iaith.

Ers pryd dach chi wedi bod yn dysgu Cymraeg?

Mi ddechreues i ddysgu Cymraeg pan symudes i Ynys Môn, ond roedd rhaid oedi’r dysgu oherwydd salwch.

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg efo Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain/Popeth Cymraeg ers tua tair blynedd rŵan a dw i wrth fy modd yn dysgu ar-lein efo fy nhiwtoriaid, Pegi a Ioan Talfryn. Dw i wir yn mwynhau fy hun.

Lle a phryd dach chi’n defnyddio eich Cymraeg?

Bob dydd Llun, dw i a fy ffrind yn mynd i ddosbarth gwnïo, ble mae 90% o’r bobl yn siarad Cymraeg. Dw i’n ymarfer fy Nghymraeg efo nhw ac maen nhw’n wych efo fi.

Pan dw i’n mynd i siopa, dw i bob amser yn cyfarch pobl yn Gymraeg, ac yn ceisio siarad Cymraeg cymaint ag y medra i.  

Dudwch wrthon ni am eich llwyddiant yn Eisteddfod y Dysgwyr...

Mi wnes i gystadlu ym mhob cystadleuaeth ysgrifennu, a mi ges i drydydd yng nghystadleuaeth y Gadair. Dw i’n berson creadigol iawn, a dw i’n mwynhau gwnïo a gweu, felly mi wnes i gystadlu ym mhob cystadleuaeth celf a chrefft hefyd ac mi wnes i’n dda iawn. Dw i wedi anfon fy ngwaith ar gyfer Eisteddfod y Dysgwyr 2025 yn barod.

Be ydy’r peth gorau am siarad Cymraeg?

Mae dysgu Cymraeg yn cadw fy ymennydd yn brysur. Dw i’n hoffi sŵn yr iaith. Mae’n dod ag atgofion yn ôl o fy nhad yn siarad. Pan roedd o’n siarad Cymraeg, roedd o’n swnio fel tasai fo’n canu. Dw i’n mwynhau dysgu rhywbeth sy’n rhan ohona i.

Be ydy eich cyngor i bobl eraill sy’n dysgu?

Gwrandewch a darllenwch. Gwrandewch ar sut mae pobl yn eich ardal yn siarad. I ddechrau, do’n i ddim yn darllen, ond, oherwydd bod Pegi, fy nhiwtor, hefyd yn awdur, ro’n i’n meddwl baswn i’n darllen un o’i llyfrau, a rŵan, dw i wrth fy modd yn darllen yn Gymraeg. Dw i’n trio deud y geiriau yn fy mhen i ymarfer ynganu geiriau Cymraeg.

Dysgu Cymraeg – be ydy’r cam nesaf i chi?

Dw i’n mwynhau gwneud arholiadau, ac yn teimlo rhyw gyffro yn eu gwneud. Dw i’n gobeithio gwneud yr arholiad Sylfaen y flwyddyn nesaf. Mae cymaint o gyfleoedd gwahanol i ddefnyddio eich Cymraeg, fel yr Eisteddfod. Dw i’n medru darllen yn Gymraeg. Dw i hefyd yn trio gwrando ar y radio, a gwylio rhaglenni S4C cymaint ag y medra i.