Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Sue Hyland

Holi Sue Hyland

Cafodd Sue Hyland ei geni a’i magu yn Lloegr, ond mae’n byw yn ymyl Llanidloes ers 2012.  Mae wedi dysgu Cymraeg, a bellach yn dysgu ar lefel Gloywi gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr.  Mae Sue yn mwynhau ysgrifennu, ac enillodd Gadair y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd 2024.

Pam dysgu Cymraeg?

Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ar ôl symud i Gymru.  Ro’n i eisiau gwybod sut i ddweud arwyddion ffyrdd, ac enwau pentrefi.  Ar ôl y wers gyntaf, ro'n i wrth fy modd!  Os dach chi’n byw yng Nghymru, rhaid i chi drio dysgu’r iaith.  Mae’r iaith Gymraeg yn werthfawr, a rhaid i ni gyd wneud ein gorau glas i gadw’r iaith yn fyw. 

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Dw i wedi cwrdd â chymaint o bobl wych, a gwneud llawer o ffrindiau newydd.  Dw i hefyd wedi bod i Nant Gwrtheyrn 11 gwaith i ddysgu am ddiwylliant a hanes Cymru.  

O ble ddaeth y diddordeb mewn barddoni?

Yn ystod y cyfnod clo, mi wnes i weithdy ysgrifennu creadigol efo Mared Lewis.  Mi wnes i ysgrifennu stori fer, ac yn 2022, cafodd y stori ei chyhoeddi yn Y Daith, sef llyfr o gyfres Amdani, sy’n cynnwys straeon gan ddysgwyr.

Sut deimlad oedd ennill y Gadair?

Ro'n i mor hapus!  Mae'r Gadair yn eistedd ar y cwpwrdd yn yr ystafell fyw, ble dw i'n gallu ei gweld hi bob dydd.

Dych chi wedi ennill cystadlaethau llenyddol o’r blaen?

Dw i wedi ennill llawer o bethau dros y blynyddoedd, gan gynnwys gwobrau mewn Eisteddfodau lleol a chenedlaethol, yn ogystal â chystadlaethau Merched y Wawr.

Soniwch ychydig am gynnwys y gerdd fuddugol?

Mi ges i'r ysbrydoliaeth i ysgrifennu’r gerdd ar ôl byw mewn lle mor hardd.  Roedd y gerdd am hen ddynes yn yr ysbyty, sy’n hiraethu am ei chartref.

Dych chi eisiau ysgrifennu mwy?  

Cymraeg yw fy ail iaith, felly mae’n cymryd llawer o amser i mi ysgrifennu yn Gymraeg.  Dw i wedi dechrau dysgu sut i chwarae’r delyn, ac yn mwynhau yn fawr.  Mi wna i ysgrifennu yn y dyfodol, ond dw i eisiau canolbwyntio ar fy nhelyn hefyd. 

Beth dych chi’n ei wneud i hybu’r Gymraeg yn eich ardal leol?

Yn 2023, mi wnes i ddechrau clwb sgwrsio yn Llanidloes.  Mae Clwb y Dderwen yn mynd o nerth i nerth, ac yn cael ei gynnal bob dydd Llun.  Dan ni'n siarad am bopeth dan haul, ac mae’n addas i ddysgwyr ar bob lefel.