Holi Tom
Yma, ’dyn ni’n holi Tom Dyer, enillydd categori ‘Dechrau Arni’ gwobrau Ysbrydoli! Mae Tom yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro ar lefel Canolradd ac yn cyflwyno sioe radio ar orsaf Pure West Radio.
Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Dw i bellach yn teimlo fy mod i’n perthyn fwy i Gymru ac mae hynny’n deimlad braf. Dw i’n falch o fod yn Gymro a dw i’n gwerthfawrogi fy mod i wedi cael cyfle i ddysgu’r iaith yn ogystal â dysgu mwy am Gymru.
Dw i hefyd yn mwynhau cyfarfod pobl newydd sydd wrthi’n dysgu Cymraeg a gwneud ffrindiau drwy’r iaith. Cymraeg ydy iaith gyntaf Helen, fy nghariad, felly ’dyn ni bellach yn sgwrsio gyda’n gilydd yn Gymraeg.
Sut deimlad oedd clywed dy fod wedi ennill y wobr?
Do’n i methu credu’r peth! Roedd Dysgu Cymraeg Sir Benfro eisoes wedi rhoi gwobr ‘Ymdrech Dda’ i mi felly ro’n i wrth fy modd efo honno. Ges i sioc o wybod mod i wedi ennill gwobr genedlaethol hefyd. Mae fy niolch yn fawr i Tomos, Siân a’r criw yn Dysgu Cymraeg Sir Benfro am fy enwebu. Dw i wedi derbyn y wobr yma gan eu bod nhw mor frwdfrydig ac yn fy annog i ddysgu.
Pam wnes di benderfynu dechrau dysgu Cymraeg?
Pan wnes i ddechrau cyflwyno ar Pure West Radio yn ystod y pandemig, ro’n nhw’n chwilio am bobl i ddysgu Cymraeg. Gwnes i ymrestru gan feddwl y byddai angen i mi ddysgu am rai wythnosau yn unig, ond dw i’n dal i fwynhau dair blynedd yn ddiweddarach.
Pa mor aml wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg y tu allan i’r dosbarth?
Dw i’n defnyddio ychydig o Gymraeg ar y radio a dw i’n siarad Cymraeg gyda Helen bob dydd. Dw i’n gwylio chwaraeon a Heno ar S4C. Dw i hefyd yn mwynhau gwylio ‘Nôl i'r Gwersyll’ am Wersyll yr Urdd Llangrannog achos dw i’n adnabod rhai sy wedi ymddangos yn y gyfres!
Unrhyw gyngor i ddysgwyr sy eisiau dysgu Cymraeg?
Ewch amdani. Mae amseru’r cyrsiau mor hyblyg, mae’r cwrslyfrau yn hawdd i’w dilyn ac mae’r tiwtoriaid yn frwdfrydig iawn. Dych chi’n mynd i fod yng nghwmni eraill sy eisiau dysgu a byddwch chi’n annog eich gilydd.
Beth ydy’r cam nesaf gyda dysgu Cymraeg?
Parhau i ddysgu ac o bosib sefyll arholiad Canolradd cyn mynd ymlaen i lefel Uwch. Dw i eisiau mynd i fwy o weithgareddau y tu allan i’r dosbarth fel y clwb cerdded a’r clwb darllen. Rhyw ddydd dw i hefyd eisiau canu yn Gymraeg.
Wyt ti eisiau defnyddio mwy o Gymraeg ar y radio?
Dw i eisiau gwneud sioe ddwyieithog ar y radio. Rhyw ddydd, hoffwn i gyflwyno Gwlad y Gân a chyflwyno’r sioe i gyd yn Gymraeg fy hun! Dw i eisiau gwneud gwaith teledu a radio yn Gymraeg, unai rhaglen ddogfen neu sylwebu ar chwaraeon.
Oes gen ti hoff air Cymraeg?
‘Defnyddio’ achos dw i’n hoffi sŵn y gair. Dw i’n defnyddio’r Gymraeg rhywben bob dydd. Dw i wedi dysgu iaith newydd a dw i’n bwriadu ei defnyddio.