Holi Wynne
Yma, ’dyn ni'n holi Wynne Jordan o Ganada, wnaeth symud i Gymru yn 2023. Yn fuan wedyn, dechreuodd ddysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Ar ôl symud i Gymru, ro’n i’n teimlo bod rhaid i mi ddysgu Cymraeg. Ces i fy magu mewn ardal ddwyieithog yng Nghanada, felly dw i’n credu ei bod hi’n bwysig dysgu iaith arall.
Pa gyngor sy gyda chi ar gyfer dysgwyr eraill?
Dw i’n defnyddio Duolingo i ymarfer tu allan i’r dosbarth. Hefyd, mae’r adnoddau digidol Dysgu Cymraeg yn ddefnyddiol iawn.
Beth arall sy’n eich helpu i ymarfer eich Cymraeg?
Dw i’n canu gyda Chôr Tŷ Tawe, lle mae popeth yn Gymraeg. Mae’r canu’n helpu fi i ynganu yn well, ac mae dilyn arweinydd y côr yn help mawr! Dw i’n mwynhau mynd i ddigwyddiadau eraill yn Nhŷ Tawe hefyd, fel Boreau Coffi a rhai cyngherddau.
Beth yw eich diddordebau?
Dw i’n mwynhau treulio amser gyda fy ŵyr newydd a’i rieni yng Nghaerdydd. Dw i hefyd yn mwynhau chwarae’r piano, cerdded, a bod yn rhan o gymuned Parc Chwarel Rosehill yn Abertawe.
Sut mae eich bywyd wedi newid ers dechrau dysgu Cymraeg? Mae dysgu’r iaith wedi bod yn ffordd hyfryd o gwrdd â phobl. Mae’n braf hefyd gallu deall ystyr enwau llefydd erbyn hyn.
Oes aelodau o’r teulu neu ffrindiau sy’n siarad Cymraeg?
Mae rhai o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg, ac mae rhai yn dysgu Cymraeg. Dw i eisiau helpu fy ŵyr i ddysgu Cymraeg, pan fydd yn ddigon hen i siarad.
Oes hoff air Cymraeg gyda chi?
Ofnadwy!
Beth sy nesaf gyda dysgu Cymraeg?
Dw i’n gobeithio gorffen lefel Canolradd, a symud ymlaen i lefel Uwch flwyddyn nesaf.