Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Hyfforddiant Dysgu Cymraeg ar gyfer y sector Iechyd a Gofal – partneriaeth i gefnogi 'Mwy na Geiriau'

Hyfforddiant Dysgu Cymraeg ar gyfer y sector Iechyd a Gofal  – partneriaeth i gefnogi 'Mwy na Geiriau'

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn arwain rhaglen hyfforddiant sylweddol ar gyfer gweithwyr y sector Iechyd a Gofal ledled Cymru, er mwyn cefnogi 'Mwy na Geiriau' – fframwaith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymuned.

Mae tiwtor Dysgu Cymraeg bellach wedi’i leoli ym mhob un o Fyrddau Iechyd Cymru, gan gynnig hyfforddiant hyblyg ar bob lefel, gan gynnwys sesiynau Codi Hyder. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys cyrsiau preswyl, sy’n cynnig profiad trochi i weithwyr sydd eisiau cryfhau eu sgiliau mewn cyfnod byr o amser.

Mae'r Ganolfan hefyd wrthi’n datblygu cynlluniau dysgu wedi’u teilwra ar gyfer arbenigeddau penodol, gan gynnwys Niwroamrywiaeth a Gofal Dementia.  Mae’r Ganolfan eisoes wedi creu cynllun ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes, sydd hefyd yn cynnwys partneriaeth ag elusen Macmillan, i ehangu’r cyfleoedd ymhellach i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Ymhlith y datblygiadau eraill mae cwrs hunan-astudio newydd wedi’i greu i gefnogi gweithwyr Iechyd a Gofal o dramor i ddysgu am Gymru a’r Gymraeg.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles: “Rwy’n croesawu’r adnoddau newydd yma, sydd wedi’u datblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol. Byddant yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth helpu’r gweithlu i ddysgu’r Gymraeg ac yn cyflwyno rhai geiriau ac ymadroddion y gellir eu defnyddio mewn sgyrsiau bob dydd yn y gwaith.”

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae’r Ganolfan yn falch iawn o arwain rhaglen hyfforddiant cenedlaethol i gefnogi gweithwyr ar draws y sector Iechyd a Gofal yng Nghymru i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg.  Mae’r rhaglen yn cefnogi darparwyr iechyd a gofal i gyflawni’r ‘Cynnig Rhagweithiol’ sy’n rhan o fframwaith Mwy na Geiriau, sef cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg heb i’r claf neu ddefnyddiwr orfod gofyn amdano.

“Dan ni’n gwybod bod y gallu i gynnig gwasanaethau Iechyd a Gofal trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth i gleifion a’u teuluoedd, ar adegau pryd maen nhw’n teimlo fwyaf bregus, ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi’r gweithlu i gryfhau eu sgiliau iaith.”