’Dyn ni’n chwilio am ‘iaith pobl ifanc’ – geiriau Cymraeg anffurfiol mae pobl ifanc yn eu defnyddio gyda’i gilydd.
Geiriau fel…
Copsan – cael dy ddal yn gwneud rhywbeth drwg – “ti ’di cael copsan!”
Pig – diflas – “wel am stori big oedd honna!”
Sgiliau moethus – sgiliau da – “oedd rheina’n sgiliau moethus!”
Shwtrwns – malu yn deilchion – “mi falodd y drych yn shwtrwns”
Oes gyda ti eiriau i ni? Maen nhw’n gallu bod yn eiriau tafodieithol, cyn belled bod pobl ifanc yn dal i’w defnyddio!
Anfon unrhyw eiriau at swyddfa@dysgucymraeg.cymru