Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Josie Taylor yn defnyddio ei llais yn rownd derfynol Miss Cymru i annog pobl ifanc i ddysgu Cymraeg

Josie Taylor yn defnyddio ei llais yn rownd derfynol Miss Cymru i annog pobl ifanc i ddysgu Cymraeg

Mae Josie Taylor, sy wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Miss Cymru 2026, yn defnyddio ei llais i rannu ei hangerdd am ddysgu Cymraeg ac annog pobl ifanc eraill i ddysgu’r iaith.

Mae Josie, o Donypandy yn y Rhondda, yn dilyn cwrs Dysgu Cymraeg dwys gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae Josie yn dysgu Cymraeg am ddim fel rhan o gynllun wedi’i ariannu’n llawn gan y Ganolfan ar gyfer pobl 16-25 oed.

Mae Josie wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Miss Cymru 2026 – y gystadleuaeth swyddogol i gymhwyso ar gyfer Miss Byd, sy’n cael ei chynnal ym mis Ebrill 2026. Yn rhan o’r gystadleuaeth, mae’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael profiadau amrywiol a chyfleoedd gwerthfawr, ac yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau er mwyn cyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau.

Dechreuodd Josie ymddiddori mewn ieithoedd yn yr ysgol yng Ngholeg Cymunedol Tonypandy, ac ar ôl cwblhau gradd BA mewn Sbaeneg ac Athroniaeth, a gradd meistr mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bryste, mae Josie bellach yn mwynhau dysgu Cymraeg.

Meddai Josie, “Yn y cyfnod yn arwain at y gystadleuaeth, ’dyn ni’n ymgyrchu dros bethau ’dyn ni’n credu ynddyn nhw, ac yn cyfrannu yn ein cymunedau. I fi, mae’r iaith Gymraeg yn hollbwysig oherwydd dw i eisiau annog mwy o bobl ifanc i ddysgu a defnyddio’r iaith.

“Dw i wastad wedi dwlu ar ieithoedd, a dw i eisiau ymwneud â diwylliant a threftadaeth y Gymraeg.”

Mae Josie’n mwynhau defnyddio ei Chymraeg y tu allan i’r dosbarth, yn ymarfer gyda ffrindiau sy’n siarad Cymraeg, ac yn canu caneuon Cymraeg gyda Chôr Merched Tonyrefail. Mae’n awyddus i gryfhau a magu hyder yn ei sgiliau Cymraeg er mwyn defnyddio’r iaith yn ei bywyd bob dydd.

Meddai, “Dw i’n gobeithio dod o hyd i swydd ble dw i’n gallu defnyddio fy Nghymraeg, a bod yn ddwyieithog. Baswn i wrth fy modd yn defnyddio’r iaith Gymraeg bob dydd.”