Judi yn diwtor yng nghlwb rygbi Hirwaun, lle dechreuodd ei ‘thaith iaith’
Mae dysgwr Cymraeg sy’n wreiddiol o Knowle, Canolbarth Lloegr, a ddechreuodd ddysgu Cymraeg o ddifri yng nghlwb rygbi Hirwaun, bellach yn gwirfoddoli fel tiwtor yn y clwb, lle mae’n cyflwyno’r iaith i genhedlaeth newydd o ddysgwyr.
Cafodd Judi flas ar ddysgu’r iaith ar gwrs penwythnos yn y 90au ond yn fuan wedyn fe hawliodd magu teulu flaenoriaeth, a chafodd saib o'r dysgu.
Penderfynodd ail afael yn yr iaith ar ôl ymddeol fel llyfrgellydd chwe blynedd yn ôl a dilynodd gwrs i ddechreuwyr yng nghlwb rygbi Hirwaun am ddwy flynedd. Yna ymunodd â chwrs dwys gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei gynnal ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg, Pentre’r Eglwys.
Ers iddi ddychwelyd i’r dosbarth, mae Judi wedi ymdrechu i ymdrochi yn yr iaith ar bob cyfle. Mae hi’n aelod o Merched y Wawr ac yn mwynhau mynychu dramâu a gigs Cymraeg.
Roedd Judi yn falch dros ben i roi ei sgiliau newydd ar waith trwy wirfoddoli fel tiwtor yng nghlwb rygbi Hirwaun. Mae’n dysgu dosbarth bob wythnos ac yn mwynhau yn fawr.
Mae dysgu Cymraeg hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar ei bywyd teuluol. Mae Judi yn falch iawn ei bod hi a’i merch hynaf, sy’n oedolyn, yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd, ac mae hi fel ei mam, yn diwtor Cymraeg. Bellach mae Judi hefyd yn fam-gu am y tro cyntaf ac yn edrych ymlaen at siarad Cymraeg gyda’i hwyres.
Mae Judi yn cymryd pob cyfle i ymarfer, boed hi’n cyfarch ei chymdogion yn Gymraeg neu’n sgwrsio mewn bore coffi Cymraeg. Mae’n ddarllenydd brwd o ‘Clochdar’, y papur bro lleol, ac yn ddiweddar cymerodd ran mewn rhaglen ar Radio Cymru oedd yn dathlu Dysgu Cymraeg.
Meddai Judi, sy’n dilyn cwrs ar gyfer dysgwyr profiadol gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg: “Dw i’n gallu dweud yn gwbl onest mai dysgu Cymraeg yw’r peth gorau i mi wneud erioed.
“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n dysgu yw i ymarfer gymaint ag sy’n bosib - peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau. Gwisgwch fathodyn oren ‘Iaith Gwaith’ unwaith eich bod chi’n ddigon hyderus, fel bod pobl yn gwybod i ddechrau sgwrs gyda chi yn Gymraeg. Defnyddiwch unrhyw beth sy’n eich helpu a pheidiwch roi’r ffidil yn y to - ewch amdani!”
Diwedd