Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

“Mae gallu siarad Cymraeg yn teimlo fel superpower”

“Mae gallu siarad Cymraeg yn teimlo fel superpower”

Yn wreiddiol o Aberhonddu, mae Kierion Lloyd bellach yn byw yn ardal Wrecsam. Mae wrth ei fodd gyda’r Gymraeg – dyma ei hanes...

Pam roeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?

Roedd fy nhad yn y fyddin felly ro’n ni fel teulu yn symud o gwmpas llawer. Ches i ddim llawer o gyfleoedd i ymarfer na siarad Cymraeg pan o’n i’n blentyn.

Dechreuais i ddysgu chwe blynedd yn ôl gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei redeg gan Goleg Cambria ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dw i’n dilyn cwrs Uwch ar hyn o bryd a dw i wrth fy modd yn dysgu Cymraeg. Ro’n i eisiau dysgu oherwydd fy mod i’n teimlo fel Cymro. Ro’n i eisiau bod yn rhan o’r diwylliant a chysylltu gyda fy ngwreiddiau. Mae gallu siarad Cymraeg yn teimlo fel superpower.

Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?

Dw i’n dwlu ar gerddoriaeth a dw i’n teithio llawer er mwyn mynd i wyliau cerddorol. Dw i’n mynd i Tafwyl a Sesiwn Fawr Dolgellau bob blwyddyn, sef gwyliau Cymraeg yng Nghaerdydd a Dolgellau, a gwyliau fel Gŵyl Go Go Goch, digwyddiad yn Llanfairpwllgwyngyll, a’r Eisteddfod Genedlaethol, sef dathliad o’r celfyddydau, iaith a diwylliant yng Nghymru. Dw i’n trio fy ngorau glas i gymysgu gyda phobl trwy gyfrwng y Gymraeg. Dw i’n hoffi clywed acenion gwahanol pobl ar draws Cymru. Dw i eisiau byw fy mywyd yn Gymraeg.

Be ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Cymuned ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg. Pan dw i’n mynd i gigs, mae pawb mor gyfeillgar a chefnogol o bawb sy’n dysgu Cymraeg.

Be ydy dy ddiddordebau?

Cerddoriaeth yn bendant. Dw i hefyd yn hoffi mynd i gerdded yn y mynyddoedd a gwersylla gwyllt. Dw i’n hoffi bod yn yr awyr agored a chrwydro Cymru.

Dwed ychydig am y fordaith fuest ti arni yn ddiweddar. Sut aeth hi?

Roedd y daith yn wych. Roedden ni’n teithio o Ogledd Cymru i Amsterdam ar fferi, ac roedd yr holl adloniant trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd Dafydd Iwan, Bwncath, Fleur De Lys, a mwy yn chwarae. Dw i’n defnyddio cerddoriaeth i fy helpu i ddysgu Cymraeg felly pan glywais am y daith hon, ro’n i’n sicr fy mod i am fynd arni. Yn ogystal â mwynhau’r gerddoriaeth, cawson ni gyfle i grwydro Amsterdam. Roedd y daith yn brofiad ac yn gyfle da i gwrdd â phobl newydd.

Be ydy dy hoff air Cymraeg?

Dw i’n dysgu geiriau newydd bob dydd ond fy hoff air ar hyn o bryd ydy pendramwnwgl.

Be ydy dy gyngor i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Defnyddia’r Gymraeg sy gen ti. Paid rhoi gormod o bwysau ar dy hun i ddod yn rhugl. Mae’n bwysicach codi dy hyder i ddefnyddio a siarad Cymraeg.