Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

“Mae’n anodd dychmygu byw yng Nghymru heb yr iaith” – Anthea yn cofleidio’r iaith a’r gymuned leol

“Mae’n anodd dychmygu byw yng Nghymru heb yr iaith”  – Anthea yn cofleidio’r iaith a’r gymuned leol

Pan symudodd Anthea Fowler a’i gŵr o Fanceinion i bentref Llanystumdwy yn 2021, doedd hi ddim yn siarad gair o Gymraeg.  Erbyn hyn, mae’n siarad yr iaith bob dydd, ac yn chwarae rhan flaenllaw yn ei chymuned leol.

Penderfynodd y pâr symud i Gymru am eu bod yn ysu i fyw mewn cymuned, ac roedd Llanystumdwy yn apelio oherwydd natur glos y pentref a menter gymunedol Tafarn y Plu. Ond roedd un peth yn sefyll allan wrth iddyn nhw ystyried y penderfyniad: yr iaith Gymraeg.

“Ro’n ni eisiau symud i rywle oedd â chymuned gref, y math o le ble mae cymdogion yn nabod ei gilydd a digon o bethau ymlaen,” eglura Anthea. “Ond ro’n ni hefyd yn gwybod ei bod yn bwysig ymchwilio i ardal cyn symud yno – a phan welon ni fod 80% o bobol yr ardal yn siarad Cymraeg, ro’n ni’n gwybod byddai dysgu Cymraeg yn flaenoriaeth.”

Mae Anthea bellach yn dysgu Cymraeg dau fore’r wythnos ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Bangor ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Anthea wedi cael croeso cynnes yn y gymuned.  Cafodd ei hethol yn is-drysorydd Tafarn y Plu gwta chwe mis ar ôl cyrraedd—er heb ddeall llawer o’r trafodaethau yn y cyfarfod blynyddol.

“Clywais fy enw’n cael ei grybwyll a chlywais ffrind yn dweud ‘just say yes’ – felly fe wnes i,” chwarddodd.  “Wnes i ddim sylweddoli fy mod i newydd gytuno i fod ar y pwyllgor!”

Bellach, mae’n deall y trafodaethau ac yn cyfrannu’n hyderus – ac yn ei gweld ei hun fel rhan annatod o’r gymuned Gymraeg.

Yn ogystal â’i gwaith gyda’r dafarn, mae Anthea wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau lleol, gan gynnwys nosweithiau lobsgóws, ffeiriau dillad, a hyd yn oed dathliad gyda’r Fari Lwyd yng nghwmni’r cerddor Gwilym Bowen Rhys.

“Mi wnes i brynu penglog ceffyl a’i addurno, a daeth Gwilym yn ei wisg draddodiadol i ganu caneuon.  Roedd y noson yn llawn hwyl ac yn brofiad unigryw.”

Wrth edrych ymlaen, mae Anthea’n parhau’n frwd dros ddysgu Cymraeg ac yn disgwyl yn eiddgar am ailagor Tafarn y Plu ar ôl gwaith adnewyddu sylweddol dros y gaeaf.

“Mae’n anodd iawn dychmygu byw yng Nghymru heb yr iaith.  Mae’n rhan bwysig o fy hunaniaeth erbyn hyn.  Byddai popeth yn hollol wahanol heb yr iaith.”